Penarddun: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Yn y traddodiad Cymreig, gwraig Llŷr a merch (neu wraig) Beli Mawr yw '''Penarddun'''. Mewn rhai testunau achyddol mae Arthur yn un o ddisgynyddion Penarddun, ond ni ell...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Yn y traddodiad Cymreig, gwraig [[Llŷr]] a merch (neu wraig) [[Beli Mawr]] yw '''Penarddun'''. Mewn rhai testunau achyddol mae [[Arthur]] yn un o ddisgynyddion Penarddun, ond ni ellir eu derbyn fel achau dilys.
Yn y traddodiad Cymreig, gwraig [[Llŷr]] a merch (neu chwaer) [[Beli Mawr]] yw '''Penarddun'''. Mewn rhai testunau achyddol mae [[Arthur]] yn un o ddisgynyddion Penarddun, ond ni ellir eu derbyn fel achau dilys.


Cyfeirir ati yn y Gyntaf o [[Pedair Cainc y Mabinogi|Bedair Cainc y Mabinogi]], ''[[Branwen ferch Llŷr]]'', fel mam [[Bendigeidfran]], [[Branwen]], a [[Manawydan]] gan Llŷr, a mam dau fab arall, sef y gefeilliaid [[Nisien]] ac [[Efnysien]], gan [[Euroswydd]].
Cyfeirir ati yn y Gyntaf o [[Pedair Cainc y Mabinogi|Bedair Cainc y Mabinogi]], ''[[Branwen ferch Llŷr]]'', fel mam [[Bendigeidfran]], [[Branwen]], a [[Manawydan]] gan Llŷr, a mam dau fab arall, sef y gefeilliaid [[Nisien]] ac [[Efnysien]], gan [[Euroswydd]].

Fersiwn yn ôl 22:38, 31 Ionawr 2008

Yn y traddodiad Cymreig, gwraig Llŷr a merch (neu chwaer) Beli Mawr yw Penarddun. Mewn rhai testunau achyddol mae Arthur yn un o ddisgynyddion Penarddun, ond ni ellir eu derbyn fel achau dilys.

Cyfeirir ati yn y Gyntaf o Bedair Cainc y Mabinogi, Branwen ferch Llŷr, fel mam Bendigeidfran, Branwen, a Manawydan gan Llŷr, a mam dau fab arall, sef y gefeilliaid Nisien ac Efnysien, gan Euroswydd.

Yn y Trioedd, rhestrir Llŷr (fel Llŷr Llediaith) yn un o 'Dri Goruchel Garcharor Ynys Prydain' am iddo gael ei ddal yn garcharor gan Euroswydd; dichon fod hyn yn deillio o chwedl goll am ymryson rhwng Euroswydd a Llŷr am gariad Penarddun.[1]

Cyfansoddair yw'r enw Penarddun o pen ac arddun "teg, prydferth (am ferch)"[2]).

References

  1. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1991), Triawd.
  2. Geiriadur Prifysgol Cymru, vol. 1, p. 188.