Afon Dniester: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up, replaced: Wcráin → Wcrain (2) using AWB
B cat
Llinell 16: Llinell 16:


[[Categori:Afonydd Moldofa|Dniester]]
[[Categori:Afonydd Moldofa|Dniester]]
[[Categori:Afonydd Wcrain|Dniester]]
[[Categori:Afonydd Wcráin|Dniester]]

Fersiwn yn ôl 12:38, 31 Mai 2017

Dinas Tiraspol ar Afon Dniester

Afon fawr yn nwyrain Ewrop yw Afon Dniester (Wcreineg: Дністер, Dnister; Rwmaneg, Nistru).

Gorwedd tarddle'r afon yn Wcrain, ger Drohobych, ym mynyddoedd Carpathia yn agos i'r ffin â Gwlad Pwyl, ac mae'n llifo oddi yno i aberu yn y Môr Du. Am ran o'i chwrs mae'n dynodi'r ffin rhwng Wcrain a Moldofa, ac wedyn mae'n llifo yn ei blaen trwy Foldofa am 398 km, gan orwedd rhwng rhan fwyaf y wlad a Transnistria. Yn is i lawr mae'n ffurfio'r ffin rhwng Moldofa a Wcrain eto, ac wedyn yn llifo trwy Wcrain i'r Môr Du, lle mae ei haber yn ffurfio Liman Dniester. Ei hyd yw 1,362 km (846 milltir).

Yn ei rhan isaf, mae ei glan orllewinol yn uchel a mynyddig tra bod ei glan ddwyreiniol yn wastadir isel. Mae'r afon yn llunio'r ffin de facto y steppe Asiaidd. Ei phrif lednentydd yw'r afonydd Răut a Bîc.

Yn yr Henfyd, ystyrid yr afon yn brif afon y Sarmatia Ewropeaidd, a chyfeirir ati yng ngwaith sawl awdur Clasurol, yn cynnwys Herodotus.

Dolen allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Wcráin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.


Eginyn erthygl sydd uchod am Foldofa. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato