Terwyn Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 12: Llinell 12:


== Teledu Telesgôp a rhaglen Ffermio ==
== Teledu Telesgôp a rhaglen Ffermio ==
Yn ei fywyd personol, mae Terwyn wedi gweithio i gwmni cynhyrchu teledu [[Telesgôp]] ers 2001 lle dechreuodd ei yrfa fel ymchwilydd ar raglen [[Ffermio (rhaglen deledu)|Ffermio]]. Mae bellach yn gynhyrchydd rhyngweithiol yn gyfrifol am [[gwefan|wefan]] Ffermio a gwasanaeth botwm coch sy'n cyd-fynd â'r rhaglen.
Yn ei fywyd personol, mae Terwyn wedi gweithio i gwmni cynhyrchu [[Telesgôp|Teledu Telesgôp]] ers 2001 lle dechreuodd ei yrfa fel ymchwilydd ar raglen [[Ffermio (rhaglen deledu)|Ffermio]]. Mae bellach yn gynhyrchydd rhyngweithiol yn gyfrifol am [[gwefan|wefan]] Ffermio a gwasanaeth botwm coch sy'n cyd-fynd â'r rhaglen.


Mae i'w glywed hefyd yn darllen y newyddion ar raglen [[Bwletin Ffermio]] bob dydd Mawrth a dydd Gwener am 12.20pm ar [[S4C Digidol]].
Mae i'w glywed hefyd yn darllen y newyddion ar raglen [[Bwletin Ffermio]] bob dydd Mawrth a dydd Gwener am 12.20pm ar [[S4C Digidol]].

Fersiwn yn ôl 16:48, 25 Ionawr 2008

Delwedd:Terwyn.jpg
Terwyn Davies

Darlledwr yw Terwyn Davies (ganwyd 3 Ebrill 1979). Magwyd yn Nyffryn Aeron, Ceredigion, a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Felin Fach ac yna Ysgol Gyfun Aberaeron. Aeth yn ei flaen i Brifysgol Cymru Bangor i ddilyn cwrs gradd mewn Cyfathrebu, a chwrs ôl-radd mewn Newyddiaduraeth.

Radio Ceredigion

Ymunodd â thîm cyflwyno Radio Ceredigion yn 1995, gan gyflwyno rhaglenni amrywiol fel "Yr Awr Gyfarchion" ac "Ar Dramp", a dwy awr o gerddoriaeth gwlad wythnosol "Gore Gwlad" - oedd yn cynnwys y gorau o ganu gwlad newydd o'r UDA a chymysgedd o gerddoriaeth Cymraeg hefyd.

BBC Radio Cymru

Yn Hydref 1999 tra yn y coleg ym Mangor, ymunodd â thîm cyflwyno BBC Radio Cymru lle bu'n cyd-gyflwyno Gang Bangor gyda Dylan Wyn ac Owain Gwilym. Yn 2000, cafodd bartner darlledu newydd - Stephen Edwards a bu'r ddau'n darlledu ar y cyd ar Gang Bangor, cyn ymuno â rhaglen C2.

Bu Terwyn yn cyd-gyflwyno slot hwyr C2 bob nos Iau a nos Wener rhwng 11 ac 1 yng nghwmni Stephen Edwards a Jeni Lyn, ac C2 ar fore Sadwrn rhwng 10.30 a 12.30pm. Yn ddiweddarach, symudwyd y slot foreol i slot yn y prynhawn rhwng 12.30 a 2pm o dan yr enw Steve a Terwyn.

Yn Hydref 2007, fel rhan o newidiadau i ail-strwythuro gwasanaeth C2, daeth rhaglenni Steve a Terwyn i ben. Yn Ionawr 2008, ymunodd Terwyn â thîm rhaglen Galwad Cynnar ar Radio Cymru fel gohebydd.

Teledu Telesgôp a rhaglen Ffermio

Yn ei fywyd personol, mae Terwyn wedi gweithio i gwmni cynhyrchu Teledu Telesgôp ers 2001 lle dechreuodd ei yrfa fel ymchwilydd ar raglen Ffermio. Mae bellach yn gynhyrchydd rhyngweithiol yn gyfrifol am wefan Ffermio a gwasanaeth botwm coch sy'n cyd-fynd â'r rhaglen.

Mae i'w glywed hefyd yn darllen y newyddion ar raglen Bwletin Ffermio bob dydd Mawrth a dydd Gwener am 12.20pm ar S4C Digidol.

Yn ei fywyd preifat, mae Terwyn wedi dioddef o atal dweud ers yn blentyn, a gwnaeth hyn greu trafferthion iddo yn ystod ei blentyndod a'i arddegau. Oherwydd ei brofiad ar y radio ar hyd y blynyddoedd, mae bellach wedi dysgu i reoli'r atal dweud ac mae'r cyflwr bron yn diflannu'n gyfangwbl tra'i fod yn darlledu.

Mae Terwyn bellach wedi ymgartefu gyda'i wraig yn ardal Tanerdy yn nhref Caerfyrddin.

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.