David Crystal: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 21: | Llinell 21: | ||
==Bywyd cynnar ac addysg== |
==Bywyd cynnar ac addysg== |
||
Ganwyd Crystal yn [[Lisburn]], Gogledd Iwerddon. Fe'i magwyd yn ddwyieithog yn y [[Cymraeg|Gymraeg]] a'r [[Saesneg]] yng [[Caergybi|Nghaergybi]] ac yna [[Lerpwl]] lle mynychodd [[Coleg |
Ganwyd Crystal yn [[Lisburn]], Gogledd Iwerddon. Fe'i magwyd yn ddwyieithog yn y [[Cymraeg|Gymraeg]] a'r [[Saesneg]] yng [[Caergybi|Nghaergybi]] ac yna [[Lerpwl]] lle mynychodd [[Coleg y Santes Fair, Lerpwl|Goleg y Santes Fair]] o 1951.<ref name="camb">{{cite web | url=http://www.cambridge.org/uk/linguistics/crystal/about_the_author.htm | title=All About...The Author | publisher=Cambridge University Press | accessdate=22 May 2015}}</ref> Astudiodd Saesneg yng [[Coleg y Brifysgol, Llundain|Ngholeg y Brifysgol]], [[Llundain]] rhwng 1959 a 1962.<ref name="camb" /> |
||
==Gyrfa== |
==Gyrfa== |
Fersiwn yn ôl 14:51, 24 Mai 2017
David Crystal | |
---|---|
David Crystal yn arwyddo llyfr yng Ngwyl Humber mouth, 2009. | |
Ganwyd | Lisburn, Gogledd Iwerddon | 6 Gorffennaf 1941
Cenedligrwydd | Prydeinig |
Meysydd | Ieithyddiaeth |
Alma mater | Coleg Prifysgol Llundain |
Gwefan | |
davidcrystal.com |
Ieithydd, academydd ac awdur yw'r Athro David Crystal, OBE (ganwyd 6 Gorffennaf 1941).
Bywyd cynnar ac addysg
Ganwyd Crystal yn Lisburn, Gogledd Iwerddon. Fe'i magwyd yn ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg yng Nghaergybi ac yna Lerpwl lle mynychodd Goleg y Santes Fair o 1951.[1] Astudiodd Saesneg yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain rhwng 1959 a 1962.[1]
Gyrfa
Roedd yn ymchwilydd o dan Randolph Quirk rhwng 1962 a 1963, yn gweithio ar Arolwg o Ddefnydd y Saesneg.[1][2] Ers hynny mae wedi darlithio yn Ngholeg y Brifysgol, Bangor ac rhwng 1965 a 1985 bu'n Athro Gwyddor Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Reading. Mae'n Athro Ieithyddiaeth er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor.[3]
Ers ymddeol o waith academaidd llawn amser, bu'n gweithio fel awdur, golygydd ac ymgynghorydd ac mae'n cyfrannu i ddarllediadau radio a theledu. Mae ei gysylltiad gyda'r BBC yn amrywio o gyflwyno cyfres am faterion ieithyddol ar BBC Radio 4, i bodlediadau ar wefan y BBC World Service ar gyfer pobl sy'n dysgu Saesneg.[4][5]
Yn 1995 derbynnodd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i'r iaith Saesneg. Mae'n awdur dros 60 o lyfrau ar yr iaith Saesneg ac ieithyddiaeth, mae hefyd wedi golygu a chyfrannu at nifer o gyfeirlyfrau. Mae ef hefyd yn Gymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Mae'n byw yng Nghaergybi gyda'i wraig, sy'n gyn-therapydd lleferydd a nawr yn awdur plant. Mae ganddo pedwar o blant. Mae ei fab Ben Crystal hefyd yn awdur a wedi cyd-ysgrifennu tri llyfr gyda'i dad.[6]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 "All About...The Author". Cambridge University Press. Cyrchwyd 22 May 2015.
- ↑ "Staff Profile of Professor David Crystal". Prifysgol Bangor University. Cyrchwyd 22 May 2015.
- ↑ "David Crystal profile". The Guardian. Cyrchwyd 22 May 2015.
- ↑ "Biography". Crystal Reference. 2005. Cyrchwyd 2007-10-15.
- ↑ Hazel Bell (1 October 1999). "David Crystal". Journal of Scholarly Publishing. Cyrchwyd 2007-10-15.
- ↑ Lo Dico, Joy (14 March 2010). "Watch what you're saying!: Linguist David Crystal on Twitter, texting and our native tongue". The Independent. Cyrchwyd 21 May 2015.
Cysylltiadau allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol