Dewi Sant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ListeriaBot (sgwrs | cyfraniadau)
B Wikidata list updated
ListeriaBot (sgwrs | cyfraniadau)
B Wikidata list updated
Llinell 56: Llinell 56:
| [[Eglwys Dewi Sant, Caerdydd|Eglwys Dewi Sant]]
| [[Eglwys Dewi Sant, Caerdydd|Eglwys Dewi Sant]]
| [[Delwedd:Eglwys Dewi Sant, Caerdydd 01.jpg|center|128px]]
| [[Delwedd:Eglwys Dewi Sant, Caerdydd 01.jpg|center|128px]]
| {{Coord|51.4846|-3.1729|display=inline}}
| {{Coord|51.48504|-3.1741|display=inline}}
| [[Caerdydd]]
| [[Caerdydd]]
| [[:d:Q19369346|Q19369346]]
| [[:d:Q19369346|Q19369346]]

Fersiwn yn ôl 11:25, 22 Mai 2017

Dewi Sant (yng nghapel Coleg yr Iesu yn Rhydychen)
Baner Dewi Sant

Dewi Sant (bl. 6g; bu farw yn 589 yn ôl Rhigyfarch[1]) yw nawddsant Cymru. Ni wyddom lawer amdano ond mae'n eitha sicr iddo fyw yng Nghymru a'i fod yn chwarter Cymro o leiaf; yn ôl Rhigyfarch, leian o'r enw Non oedd ei fam, a dresiwiyd gan Sant, Brenin Ceredigion.[2] Dethlir Dydd Gŵyl Dewi yn flynyddol ar 1 Mawrth. Nodir yn y Fuchedd Gymraeg Llyfr Ancr Llanddewibrefi (Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen) ei bregeth olaf, lle dywedodd, "Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf i."

Hanes a thraddodiad

Yn ôl un traddodiad, cafodd ei eni yn Henfynyw ger Aberaeron, ond mae traddodiad arall yn cyfeirio at Gapel Non, gerllaw Eglwys Gadeiriol Tyddewi heddiw. Ei fam oedd y santes Non a'i dad oedd Sant (neu Sandde), brenin Ceredigion.

Mae'n eithaf sicr iddo sefydlu ei abaty yn Nhyddewi (yr hen enw oedd Mynyw: Menevia) ac mae cyfeiriad at fynachlog yno mewn llawysgrif Wyddelig o tua'r flwyddyn 800. Enw arall ar y lle yw Glyn Rhosyn, sy'n gamgyfieithiad o'r Lladin vallis rosina sydd, o'i gyfieithu'n gywir, yn golygu cwm corsiog.[angen ffynhonnell] Mae'n demtasiwn i feddwl am y llecyn fel lle tawel, ond allai hynny ddim fod ymhellach oddi wrth y gwir. Roedd yn groesffordd i deithiau i Iwerddon, Cernyw, Llydaw gan arwain i Rufain a'r dwyrain a'r gogledd. Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi ei hun mewn pant ac yn agos i adfeilion Plas yr Esgob.

Mae bron pob peth a wyddom am Dewi Sant yn tarddu o'r fuchedd a ysgrifennodd Rhigyfarch tua'r flwyddyn 1100. Gelwir y cyfieithiad Cymraeg Canol o'r Lladin wreiddiol Buchedd Dewi Sant.

Gosododd Dewi gyfundrefn lem iawn yn ei fynachlog. Roedd yr oriau gweddïo'n hir, bara a dŵr oedd y bwyd arferol, a'r gwaith yn galed. Rhaid oedd ymrwymo i dlodi hefyd, ond yr oedd pregethu'r efengyl i'r paganiaid yn holl bwysig. Oherwydd ei ffordd o fyw adwaenir Dewi fel "Dewi Ddyfrwr" (Aquaticus), yn ôl un awdur o'r 9g.

Ymhlith y traddodiadau niferus am y sant, dywedir iddo gwrdd â Sant Padrig ar Ynys Dewi, ar arfordir Sir Benfro ger Tyddewi. Traddodiad arall yw i'r tir godi pan yn pregethu i dyrfa enfawr yn Llanddewi Brefi gan nad oedd y dorf yn gallu ei weld na'i glywed ac i golomen eistedd ar ei ysgwydd. Yn ôl Rhigyfarch a llawysgrifau Gwyddelig o'r 9g, bu farw Dewi ar y cyntaf o Fawrth - yn y flwyddyn 589[1] - a dyma'r dyddiad y dethlir Gŵyl Ddewi bob blwyddyn.

Eglwysi a llefydd a enwyd ar ôl Dewi

Rhestr Wicidata:

# Eglwys neu Gymuned Delwedd Cyfesurynnau Lleoliad Wicidata
1 Dydd Gŵyl Dewi
Cymru Q2454744
2 Eglwys Dewi Sant
52°10′47″N 3°57′20″W / 52.1798°N 3.95563°W / 52.1798; -3.95563 Ceredigion Q17743862
3 Eglwys Dewi Sant
51°29′06″N 3°10′27″W / 51.48504°N 3.1741°W / 51.48504; -3.1741 Caerdydd Q19369346
4 Eglwys Dewi Sant
51°30′23″N 3°37′18″W / 51.5064°N 3.6218°W / 51.5064; -3.6218 Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Q17722056
5 Eglwys Dewi Sant
Dinas Westminster Q20730072
6 Eglwys Dewi Sant
53°17′37″N 3°43′36″W / 53.2937°N 3.7268°W / 53.2937; -3.7268 Q7592945
7 Eglwys Dewi Sant
51°42′06″N 2°52′27″W / 51.7017°N 2.8742°W / 51.7017; -2.8742 Q2323903
8 Eglwys Dewi Sant (Toronto)
Toronto Q13128103
9 Eglwys Dewi Sant y Betws
51°34′08″N 3°35′24″W / 51.569°N 3.58991°W / 51.569; -3.58991 Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Q17722030
10 Eglwys Dewi Sant, Caerlŷr
53°10′56″N 3°25′07″W / 53.1822°N 3.41864°W / 53.1822; -3.41864
53°10′56″N 3°25′08″W / 53.1822°N 3.4189°W / 53.1822; -3.4189
Sir Ddinbych Q17736970
11 Eglwys Dewi Sant, Maenordeifi
52°03′30″N 4°35′08″W / 52.0584°N 4.58557°W / 52.0584; -4.58557 Q1750215
12 Eglwys Esgobaidd Dewi Sant
40°01′38″N 75°24′16″W / 40.027222°N 75.404444°W / 40.027222; -75.404444 Q7587707
13 Gwesty a Sba Dewi Sant
51°27′38″N 3°10′02″W / 51.4605°N 3.16727°W / 51.4605; -3.16727 Caerdydd Q7592942
14 Llanddewi Brefi
52°10′47″N 3°57′24″W / 52.1796°N 3.9568°W / 52.1796; -3.9568 Ceredigion Q922270
15 Tyddewi
51°52′56″N 5°16′07″W / 51.882222222222°N 5.2686111111111°W / 51.882222222222; -5.2686111111111 Tyddewi a Chlos y Gadeirlan Q648732
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. 1.0 1.1 Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.e. Dewi Sant.
  2. Gwyddoniadur Cymru tud 288;] Gwasg Prifysgol Cymru; Prif Olygydd: John Davies.