Priordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 17: Llinell 17:
[[Categori:Hanes Cymru]]
[[Categori:Hanes Cymru]]
[[Categori:Tai crefydd Cymru]]
[[Categori:Tai crefydd Cymru]]
[[Categori:Sir Gaerfyrddin]]
[[Categori:Caerfyrddin]]

Fersiwn yn ôl 17:50, 11 Ionawr 2008

Priordy yn Nghaerfyrddin a sefydlwyd yn Oes y Seintiau ac a ddaeth yn ddiweddarach i berthyn i Urdd yr Awstiniaid. Nid yw'n sefyll heddiw. Yno yn y 13eg ganrif yr ysgrifenwyd Llyfr Du Caerfyrddin, un o'r llawysgrifau Cymraeg hynaf.

Hanes

Credir bod gwreiddiau'r sefydliad i'w olrhain i oes y saint Celtaidd cynnar pan sefydlwyd 'clas' (cell neu fynachlog feudwyol) gan Teulyddog Sant, efallai yn y 6ed ganrif. Os gwir hynny mae'n debyg mai i'r dwyrain o'r hen dref Rufeinig Maridunum ar lan ddwyreiniol afon Tywy y codwyd yr eglwys gynharaf. Erbyn 1100 roedd eglwys yn bodoli ar y safle, gysegredig i Ieuan Efengylwr; eglwys plwyf Caerfyrddin yn ddiweddarach. Cyflwynwyd yr eglwys honno ynghyd ag eglwys y fynachlog i abaty Abaty Battle gan y brenin Harri I a daeth yn eiddo i Urdd y Benedictiaid am rai blynyddoedd. Ond fe'i rhoddwyd i'r Awstiniaid gan yr Esgob Bernard o Dyddewi yn 1125 a chysegrwyd yr eglwys i Ioan Efengylwr a Theulyddog. Roedd Cymry'n amlwg yn y priordy (nid oedd hynny'n wir am bob priordy Normanaidd yn y wlad), ffaith sy'n gyfrifol am lwyddiant cynnar y sefydliad, efallai. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cyn i'r priordy ddechrau ymnormaneiddio, yr ysgrifenwyd y llawysgrif sy'n adnabyddus heddiw fel Llyfr Du Caerfyrddin gan ysgrifenwr anhysbys a oedd yn perthyn i'r priordy. Roedd hefyd yn mwynhau incwm o'i feddiannau yn yr hen dref.

Yn 1291 roedd incwm y sefydliad yn £30 ond mae'n debyg nad oedd hynny'n cynnwys yr incwm o'r tua 1500 erw o dir ag oedd yn ei feddiant yn yr ardal. Erbyn 1336 roedd gan y priordy incwm o £66 ac roedd chwech canon yn byw yno yn 1379. Erbyn diwedd y 14eg ganrif roedd 22 eglwys yn ei feddiant a mwynheai incwm o tua £200. Mae'n debygol fod y bardd Lewys Glyn Cothi wedi gwasanaethu yn y priordy a derbyn addysg yno. Yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Owain Glyndŵr dioddefodd ddifrod sylweddol. Parhaodd fel sefydliad Awstinaidd tan 1536; pan gafodd ei ddiddymu roedd prior ac wyth canon yn byw yno gyda tua 80 o bobl yn gweithio iddo ac elusen yn cael ei rhoi i tua 80 o dlodion; gwerth y priordy oedd £164.

Yr Adeiladau

Diflanodd bron y cyfan o'r adeiladau olaf oedd yn dal i sefyll pan gododd Yr Arglwydd Cawdor waith plwm ar y safle yn y 18fed ganrif. Cloddiwyd y safle yn 1979 gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a darganuwyd safle rhai o'r adeiladau, gan gynnwys hwnnw'r eglwys, a oedd â hyd o 55m, o leiaf. Roedd yr adeiladau i gyd yn gorwedd y tu mewn i lan sylweddol gyda phorth yn y gogledd-orllewin; mae'r porth yn dal i sefyll heddiw ar Ffordd Y Priordy. Yn anffodus nid yw'n bosibl lleoli'r scriptorium lle, mae'n debyg, yr ysgrifenwyd Llyfr Du Caerfyrddin.

Llyfryddiaeth

  • Rod Cooper, Abbeys and Priories of Wales (Abertawe, 1992). ISBN 0715407120
  • Alwyn C. Evans, "St John's Priory, Carmarthen" (Archaeolegia Cambriensis, 1876).
  • Terence James, "Excavations at the Augustinian Priory of St John and St Teulyddog, Carmarthen, 1979 (Archaeolegia Cambriensis, 1985).