Elmet: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Interwiki
Llinell 27: Llinell 27:
[[de:Elmet]]
[[de:Elmet]]
[[en:Elmet]]
[[en:Elmet]]
[[es:Elmet
[[it:Regno dell'Elmet]]
[[it:Regno dell'Elmet]]
[[nl:Koninkrijk Elmet]]
[[nl:Koninkrijk Elmet]]

Fersiwn yn ôl 19:45, 10 Ionawr 2008

Teyrnas Frythonig yn yr Hen Ogledd oedd Elmet (Cymraeg diweddar: "Elfed"). Roedd ei thiriogaeth yn yr hyn sy'n awr yn Swydd Efrog yn ngogledd Lloegr, yn yr ardal o gwmpas dinas Leeds. Nid oes sicrwydd am ei ffiniau, ond credir fod Afon Sheaf yn ffin iddi yn y de, ac Afon Wharfe yn y dwyrain. Yn y gogledd roedd yn ffinio ar Deira ac yn y de ar Mercia.

Ymosodwyd ar Elmet gan Northumbria yn hydref 616 neu 626. yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, ceir sôn am Edwin, brenin Northumbria "occupauit Elmet, et expulit Certic, regem illius regionis" ("meddiannodd Elmet ac alltudiodd Certic, brenin y wlad honno").

Cedwir yr enw mewn nifer o enwau lleoedd yn y cylch, megis Barwick-in-Elmet a Sherburn-in-Elmet. Gelwir yr etholaeth seneddol yn "Elmet".

Ceir cyfeiriad at Elmet mewn arysgrif ar garreg fedd gynnar yn Llanaelhaearn yng Ngwynedd, "ALIOTVS ELMETIACOS HIC IACET", neu "Yma y gorwedd Aliortus o Elmet". Cadwyd cerdd gan Taliesin i Gwallog ap Llaennog, oedd yn frenin Elfed tua diwedd y 6ed ganrif.

Brenhinoedd Elmet

Llyfryddiaeth

  • David Rollason, Northumbria, 500-1100, Cambridge University Press (2003)
  • Christopher A Snyder, The Britons, Blackwell Publishing (2003)


[[es:Elmet