Doreen Lewis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Cantores yw Doreen Lewis (ganwyd 4 Ebrill 1953 yn Aberystwyth) ac fe'i magwyd yn ardal Abermeurig yn Nyffryn Aeron, Ceredigion. Cafodd ei haddysg yn [[Ysgol ...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 14:50, 10 Ionawr 2008

Cantores yw Doreen Lewis (ganwyd 4 Ebrill 1953 yn Aberystwyth) ac fe'i magwyd yn ardal Abermeurig yn Nyffryn Aeron, Ceredigion.

Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Felin Fach ac yna yn Ysgol Gyfun Aberaeron.

Yn 1969, rhyddhaodd Doreen ei record gyntaf Y Storm ar label Cambrian, â hithau 'mond yn 16 oed. Roedd hyn yn ddechrau ar yrfa disglair i'r ferch ifanc o Abermeurig.

Daeth yn enw a wyneb cyfarwydd yn ystod y blynyddoedd wedyn gan ymddangos ar lwyfannau a sgriniau teledu led led Cymru. Aeth ei gyrfa o nerth i nerth gan ryddhau nifer o recordiau ar label Sain, a chaneuon cofiadwy fel “Nans o’r Glyn”, “Rhowch i mi Ganu Gwlad”, “Cae’r Blode Menyn” a “Y Gwr Drwg”.

Mae Doreen wedi teithio ar hyd a lled Cymru a thramor yn canu am yn agos i 40 mlynedd – ac mae’n dal i fwynhau’r cyfansoddi a’r perfformio, os yw amser yn caniatau iddi ynghanol bwrlwm adref ar y fferm yn Nihewyd, Ceredigion.

Mae Doreen yn briod â John, ac mae ganddyn nhw ddau o blant – Gwyndaf a Caryl, sef awdur Martha, Jac a SiancoLlyfr y Flwyddyn 2005.