Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ysgolion Cylchynol Cymreig"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 26 beit ,  14 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
BNo edit summary
BNo edit summary
Dechreuodd Griffith Jones cyntaf o'i ysgolion cylchynol yn [[1731]]. Roedd ysgolion wedi eu cynnal dan nawdd yr [[SPCK]], ond erbyn y [[1720au]] roedd dylanwad y rhain ar drai. Un rheswm am hyn oedd fod yr SPCK yn amheus iawn o'r iaith Gymraeg. Cymraeg oedd iaith ysgolion Griffith Jones, ac roedd yr addysg yn canolbwyntio ar ddysgu darllen Cymraeg, i ddarllen y [[Beibl]] [[Cymraeg]] a gweithiau defosiynol megis ''[[Canwyll y Cymry]]'', ac i adrodd [[catecism]] [[Eglwys Loegr]]. Roedd yr ysgolion mewn un man am ryw dri mis, fel arfer yn y gaeaf pan oedd amser gan y ffermwyr i fynychu'r ysgol. Roedd yr ysgol yn dysgu plant ac oedolion; yn aml plant yn ystod y dydd ac oedolion gyda'r nos. Dywedid fod y disgyblion disgleiriaf yn medru dysgu darllen mewn chwech i saith wythnos.
 
Bu Griffith Jones yn brysur yn codi arian ar gyfer yr ysgolion; y prif gyfranwyr oedd Syr John Philipps a Bridget Bevan (Madam Bevan) o [[Talacharn|Dalacharn]]. Telid tua £5 y flwyddyn i'r athrawon, oedd yn cael eu hyfforddi yn ''Yr Hen Goleg'' yn Llanddowror. Erbyn [[1740]] roedd 150 o ysgolion wedi ei sefydlu, y rhan fwyaf yn ne Cymru. Yn ddiweddarach lledaenodd yr ysgolion yn y gogledd hefyd. Erbyn [[1758]] roedd 218 o ysgolion, gyda nifer sylweddol o ddisgyblion ym mhob sir heblaw [[Sir y Fflint]] a [[Sir Drefaldwyn]]. Wedi marwolaeth Griffith Jones yn 1761, parhawyd yr ysgolion gan Madam Bevan. Pan fu hi farw yn [[1779]] gadawodd £10,000 i barhau'r ysgolion, ond cystadlwyd ei hewyllys ac ni chafwyd penderfyniad cyfreithiol am 31 mlynedd. Oherwydd diffyg arian, daeth y cynllun i ben.
 
Amcangyrifa Geraint Jenkins fod yr ysgolion cylchynol wedi dysgu tua 250,000 o bobl i ddarllen, allan o boblogaeth o tua 490,000. Erbyn marwolaeth Griffith Jones, roedd Cymru yn mwynhau un o'r lefelau [[llythrenedd]] gorau yn y byd, cymaint felly nes i'r Ymerodres [[Catrin Fawr]] o Rwsia yrru comisiynydd i weld a oedd modd addasu'r system ar gyfer [[Rwsia]].
37,236

golygiad

Llywio