Afon Crafnant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Afon ym mwrdeistref sirol Conwy, gogledd Cymru, yw '''Afon Crafnant'''. Am fod y ffrwd sy'n llifo o Llyn Geirionydd yn ymuno â hi uwchlaw Trefriw fe'...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 22:32, 7 Ionawr 2008

Afon ym mwrdeistref sirol Conwy, gogledd Cymru, yw Afon Crafnant. Am fod y ffrwd sy'n llifo o Llyn Geirionydd yn ymuno â hi uwchlaw Trefriw fe'i gelwir yn Afon Geirionydd weithiau yn lleol.

Mae'r afon yn tarddu ym mhen uchaf Cwm Crafnant, yng ngesail y Creigiau Gleision, ar ochr ddwyreiniol y Carneddau yn Eryri. Mae hi'n llifo i mewn i Lyn Crafnant. O Lyn Crafnant llifa'r afon i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain i ddisgyn yn syrth trwy geunant goediog i Drefriw yn Nyffryn Conwy lle ceir pont drosti sy'n dwyn lôn y B5106 rhwng Conwy a Betws-y-Coed. Hanner milltir i'r gogledd o Drefriw mae hi'n ymuno ag Afon Conwy.

Defnyddwyd llif yr afon i redeg melin wlân Trefriw yn y gorffennol.

Cymerodd y bardd Ieuan Glan Geirionydd o enw'r afon, sy'n llifo heibio i'w hen gartref yn Nhrefriw.