Flavius Augustus Honorius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot Adding: bg, gl, la, sw, tr Modifying: de, en, it, nl |
B robot Adding: ar:هونوريوس |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
[[Categori:Ymerodron Rhufeinig]] |
[[Categori:Ymerodron Rhufeinig]] |
||
[[ar:هونوريوس]] |
|||
[[bg:Флавий Хонорий]] |
[[bg:Флавий Хонорий]] |
||
[[ca:Honori]] |
[[ca:Honori]] |
Fersiwn yn ôl 10:44, 6 Ionawr 2008
Roedd Flavius Honorius (9 Medi, 384 - 15 Awst, 423) yn Ymerawdwr Rhufeinig (393- 395) ac yna'n Ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin hyd ei farwolaeth.
Roedd yn fab ieuengaf i Theodosius I a'i wraig gyntaf Aelia Flaccilla. Cyhoeddwyd Honorius yn "Augustus", ac felly'n gyd-ymerawdwr a'i dad, ar 23 Ionawr 393, yn naw oed. Ar farwolaeth ei dad yn Ionawr 395 rhannwyd yr ymerodraeth rhyngddo ef a'i frawd Arcadius, a ddaeth yn ymerawdwr yn y dwyrain.
Yn ystod y rhan gyntaf o'i deyrnasiad, roedd Honorius yn dibynnu ar y cadfridog Fandalaidd Stilicho. Priododd ferch Stilicho, Maria. Pan ymosododd y Fisigothiaid ar yr Eidal yn 402, symudodd Honorius y brifddinas i Ravenna. Yn ystod ei deyrnasiad bu nifer o wrthryfeloedd ac ymgeisiadau i gipio'r orsedd, ynghyd ag ymosodiadau gan y barbariaid. Yn 408 cymerwyd Stilicho i'r ddalfa a'i ddienyddio. Yn 410 cipiwyd Rhufain gan Alaric I, brenin y Fisigothiaid.
Bu farw Honorius yn 423, heb adael etifedd. Y flwyddyn ddilynol enwebodd yr ymerawdwr yn y dwyrain, Theodosius II, ei gefnder Valentinian III, mab Galla Placidia a Constantius III, yn ymerawdwr yn y gorllewin.
Rhagflaenydd: Theodosius I |
Ymerodron Rhufain | Olynydd: Valentinian III |