Bow Street: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tivedshambo (sgwrs | cyfraniadau)
B enwiki link
Llinell 14: Llinell 14:


[[Categori:Pentrefi Ceredigion]]
[[Categori:Pentrefi Ceredigion]]
[[en:Bow Street, Wales]]

Fersiwn yn ôl 23:47, 5 Ionawr 2008

Pentref yng Ngheredigion yw Bow Street. Mae'n ymestyn yn stribed hirgul o bobtu i lôn yr A487 tua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberystwyth. Ar un adeg roedd gan y pentref orsaf ar Reilffordd y Cambrian. Mae yn ardal Genau'r Glyn.

Mae tarddiad yr enw yn ansicr. Yn ôl rhai awdurdodau 'Nantafallen' neu 'Nantyfallen' oedd hen enw'r gymdogaeth, ond 'Bow Street' yw'r unig enw arni heddiw (does dim fersiwn Cymraeg).

'Capel y Garn' yw enw'r hen gapel yn y pentref. Evan Richardson, athro John Elias a Hugh Owen, oedd y sentar cyntaf i bregethu yn Bow Street tua'r flwyddyn 1780. Codwyd y capel cyntaf yn 1793, a chodwyd capel newydd ar y safle yn 1833 am fod y gynulleidfa wedi cynyddu gymaint.

Hanner milltir i'r gogledd o'r pentref mae cymuned wledig Rhyd-y-pennau. Mae lôn yn arwain i lawr i bentref bach Clarach a Bae Clarach ar yr arfordir, ar y ffordd i'r Borth. I'r de mae Comins Coch ac i'r dwyrain Plas Gogerddan. O'r gyffordd tu allan i'r pentref mae ffordd yn rhedeg i fyny i'r bryniau i gyfeiriad Rhaeadr Gwy.


Enwogion