John Williams (Ab Ithel): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Hynafiaethydd a chlerigwr Cymreig oedd '''John Williams (Ab Ithel)''' (1811 - 27 Awst 1862). Ganed ef yn Llangynhafal, yn fab i Roger ac Elizabeth Williams. Cymerodd...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:00, 1 Ionawr 2008

Hynafiaethydd a chlerigwr Cymreig oedd John Williams (Ab Ithel) (1811 - 27 Awst 1862).

Ganed ef yn Llangynhafal, yn fab i Roger ac Elizabeth Williams. Cymerodd ei enw barddol "Ab Ithel" o enw ei daid, William Bethell. Addysgwyd ef yng Ngholeg Iesu, Rhydychen a daeth yn gurad yn Llanfor, lle priododd Elizabeth Lloyd Williams. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, Eglwys Loegr yn Anymddibynol ar Eglwys Rhufain yn 1836. Yn 1843 gaeth y gurad parhaol Nercwys, ac yn 1849 daeth yn rheithor Llanymawddwy. Yn 1846 dechreuodd gyhoeddi Archaeologia Cambrensis gyda H. Longueville Jones, a bu yn ei olygu o 1846 hyd 1853, ac roedd ganddo ran amlwg yn sefydlu y Cambrian Archaeological Association.

Daeth Ab Ithel yn amlwg iawn ym maes ysgolheictod Gymreig yn ei ddydd, ac wedi marwolaeth Aneurin Owen penodwyd ef gan y llywodraeth i gwblhau'r cynllun o gyhoeddi yr Annales Cambriae a Brut y Tywysogion, a ymddangosodd yn 1860. Roedd yn drwm dan ddylanwad syniadau Iolo Morgannwg, ac ni ystyrir ei waith o fawr werth gan ysgolheigion diweddar. Roedd yn un o brif drefnwyr Eisteddfod Fawr Llangollen yn 1858, pan wrthodwyd y wobr i Thomas Stephens am draethawd ar chwedl Madog am nad oedd yn derbyn gwirionedd yr hanes.

Ym mis Mawrth 1862 symudwyd ef i blwyf Llanenddwyn a Llanddwywe (Dyffryn Ardudwy), ond bu farw rai misoedd wedyn a chladdwyd ef yn Llanddwywe.

Cyhoeddiadau

  • Eglwys Loegr yn Anymddibynol ar Eglwys Rhufain (1836).
  • Ecclesiastical Antiquities of the Cymry (1844)