Brynaich: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
B cat
Llinell 5: Llinell 5:
Y cyntaf o frenhinoedd Eingl Brynaich y mae cofnod amdano yw [[Ida, brenin Brynaich|Ida]], a ddaeth i'r orsedd tua [[547]]. Unodd ŵyr Ida, [[Æthelfrith, brenin Northumbria|Æthelfrith]], deyrnas [[Deifr]] a'i deyrnas ei hun tua [[604]] i greu teyrnas [[Northumbria]].

{{Hen Ogledd}}

[[Categori:Yr Hen Ogledd]]
[[Categori:Yr Hen Ogledd]]
[[Categori:Eingl-Sacsoniaid]]

{{Hen Ogledd}}

[[br:Bernikia]]
[[br:Bernikia]]

Fersiwn yn ôl 16:20, 31 Rhagfyr 2007

Teyrnas Eingl-Sacsonaidd yn ne-ddwyrain yr Alban a gogledd-ddwyrain Lloegr oedd Brynaich neu Bryneich (Saesneg: Bernicia). Sefydlwyd y deyrnas gan yr Eingl yn y 6ed ganrif, ond efallai fod teyrnas Frythonig o'r enw Brynaich wedi bodoli yn flaenorol.

Roedd tiriogaeth Brynaich yn ymestyn o Afon Forth i Afon Tees; mewn termau modern roedd yn cyfateb i Northumberland, Swydd Durham, Swydd Berwick a Dwyrain Lothian. Cyn sefydlu'r deyrnas Eingl, roedd y tiriogaethau hyn yn rhan ddeheuol teyrnas Gododdin. Efallai mai ei phrifddinas oedd Bamburgh, a elwid yn Din Guardi yn yr hen ffynonellau Cymreig. Gerllaw roedd Ynys Metcaut (Lindisfarne).

Y cyntaf o frenhinoedd Eingl Brynaich y mae cofnod amdano yw Ida, a ddaeth i'r orsedd tua 547. Unodd ŵyr Ida, Æthelfrith, deyrnas Deifr a'i deyrnas ei hun tua 604 i greu teyrnas Northumbria.