Brynaich: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: Teyrnas Eingl-Sacsonaidd yn ne-ddwyrain yr Alban a gogledd-ddwyrain Lloegr oedd '''Brynaich''' neu '''Bryneich''' (Saesneg: '''Bernicia'''). Sefydlwyd y deyrnas gan y... |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) nodyn |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
[[Categori:Yr Hen Ogledd]] |
[[Categori:Yr Hen Ogledd]] |
||
{{Hen Ogledd}} |
|||
[[br:Bernikia]] |
[[br:Bernikia]] |
Fersiwn yn ôl 14:18, 30 Rhagfyr 2007
Teyrnas Eingl-Sacsonaidd yn ne-ddwyrain yr Alban a gogledd-ddwyrain Lloegr oedd Brynaich neu Bryneich (Saesneg: Bernicia). Sefydlwyd y deyrnas gan yr Eingl yn y 6ed ganrif, ond efallai fod teyrnas Frythonig o'r enw Brynaich wedi bodoli yn flaenorol.
Roedd tiriogaeth Brynaich yn ymestyn o afon Forth i Afon Tees; mewn termau modern roedd yn cyfateb i Northumberland, Swydd Durham, Swydd Berwick and Dwyrain Lothian. Cyn sefydlu'r deyrnas Eingl, roedd y tiriogaethau hyn yn rhan ddeheuol teyrnas Gododdin. Efallai mai ei phrifddinas oedd Bamburgh, a elwid yn Din Guardi yn yr hen ffynonellau Cymreig. Gerllaw roedd Ynys Metcaut (Lindisfarne).
Y cyntaf o frenhinoedd Eingl Brynaich y mae cofnod amdano yw Ida, a ddaeth i'r orsedd tua 547. Unodd ŵyr Ida, Æthelfrith, deyrnas Deifr a'i deyrnas ei hun tua 604 i greu teyrnas Northumbria.