Llosgfynydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
sillafu lludw; 100 km
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Volcano.jpeg|bawd|300px|Llosgfynydd yn Tambora, Indonesia]]
[[Delwedd:Volcano.jpeg|bawd|300px|Llosgfynydd yn Tambora, Indonesia]]
Caiff '''llosgfynydd''' (mynydd tân) ei greu lle mae [[Creigiau|craig]] tawdd ([[magma]]) yn codi i wyneb y ddaear gan achosi echdoriadau folcanig. Craig wedi ei doddi mwy na 100 km o dan wyneb [[y Ddaear]] yw magma sydd wedyn yn dechrau codi tuag at wyneb y ddaear. Pan gyrhaedda'r magma wyneb y ddaear fe lifa neu fe dasga o'r ddaear ar ffurf [[lafa]] neu ''lydw folcanig''. Ar wahân i graig tawdd mae lafa yn cynnwys creigiau a [[nwy]].
Caiff '''llosgfynydd''' (mynydd tân) ei greu lle mae [[Creigiau|craig]] tawdd ([[magma]]) yn codi i wyneb y ddaear gan achosi echdoriadau folcanig. Craig wedi ei doddi mwy na 10 km o dan wyneb [[y Ddaear]] yw magma sydd wedyn yn dechrau codi tuag at wyneb y ddaear. Pan gyrhaedda'r magma wyneb y ddaear fe lifa neu fe dasga o'r ddaear ar ffurf [[lafa]] neu [[lludw folcanig]]. Ar wahân i graig tawdd mae lafa yn cynnwys creigiau a [[nwy]].


Gelwir y creigiau sydd yn ffurfio o achos ffrwydriadau folcanig yn [[Creigiau Igenaidd|Greigiau Igenaidd]], er enghraifft [[Basalt]] neu [[Gwenithfaen]].
Gelwir y creigiau sydd yn ffurfio o achos ffrwydriadau folcanig yn [[Creigiau Igenaidd|Greigiau Igenaidd]], er enghraifft [[Basalt]] neu [[Gwenithfaen]].

Fersiwn yn ôl 15:38, 6 Mai 2017

Llosgfynydd yn Tambora, Indonesia

Caiff llosgfynydd (mynydd tân) ei greu lle mae craig tawdd (magma) yn codi i wyneb y ddaear gan achosi echdoriadau folcanig. Craig wedi ei doddi mwy na 10 km o dan wyneb y Ddaear yw magma sydd wedyn yn dechrau codi tuag at wyneb y ddaear. Pan gyrhaedda'r magma wyneb y ddaear fe lifa neu fe dasga o'r ddaear ar ffurf lafa neu lludw folcanig. Ar wahân i graig tawdd mae lafa yn cynnwys creigiau a nwy.

Gelwir y creigiau sydd yn ffurfio o achos ffrwydriadau folcanig yn Greigiau Igenaidd, er enghraifft Basalt neu Gwenithfaen.

Lleolir llosgfynyddoedd y ddaear lle mae platiau tectonig yn cwrdd neu uwchben mannau poeth. Ar hyn o bryd mae'r mwyafrif o ffrwydriadau llosgfynyddoedd a daeargrynfeydd y ddaear yn digwydd o gwmpas y Môr Tawel, yn dilyn ymylon plât tectonig y Môr Tawel.

Echdoriadau diweddar

Diagram o echdoriad yn Hawaii. 1. Lludw 2. Lafa 3. Ceudwll 4. Pwll lafa 5. Fumaroles 6. Llif y lafa 7. Haenau o lafa a lludw
8. Stratwm 9. Silff 10. Sianel fagma 11. Siambr fagma 12. Deic

Llosgfynydd yn Gwlad yr Iâ ydy Eyjafjallajökull ac fe achosodd gryn anhwylustod i deithio awyr drwy Ewrop yng ngwanwyn 2010. Chwythodd gwynt y gogledd ei lwch dros wledydd Prydain yn Ebrill a Mai pan waharddwyd awyrennau rhag hedfan. Ym Mai 2011 ffrwydrodd llosgfynydd arall ynn Ngwlad yr Iâ, sef Grímsvötn. Rhyddhawyd mwy o ludw yn ystod y 24 awr cyntaf na wnaeth Eyjafjallajökull drwy gydol ei echdoriad. Roedd y cymylau lludw'n codi hyd at 15 km. Mesurodd VEI4 ar y raddfa berthnasol.

Llosgfynyddoedd y Byd

Dyma rai o'r llosgfynyddoedd enwocaf:

Llosgfynyddoedd Cymru

Nid oes llosgfynyddoedd yn ffrwydro yng Nghymru heddiw, ond fe oedd miliynau o flynyddoedd yn ôl. O ganlyniad, mae'n bosib gweld creigiau a lludw folcanig yng Nghymru, er enghraifft ar Rhobell Fawr. Fe ddefnyddir y creigiau hyn ar gyfer adeiladu.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaeareg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato