Rhyfel Cartref yr Alban: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) B Wedi symud Rhyfel cartref yr Alban i Rhyfel Cartref yr Alban: cywiriad |
||
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 16:57, 28 Rhagfyr 2007
Roedd Rhyfel Catref yr Alban yn ryfel yn 1644 a 1645 rhwng y Brenhinwyr, cefnogwyr y brenin Siarl I a'r Cyfamodwyr, oedd wedi bod yn rheoli'r Alban ers 1639. Roedd y rhyfel yma yn rhan o gyfres Rhyfeloedd y Tair Teyrnas.
Prif gadfridog y Brenhinwyr yn yr Alban oedd James Graham, Ardalydd 1af Montrose. Cododd fyddin, yn bennaf yn Ucheldiroedd yr alban, a chyda chymorth milwyr o Iwerddon enillodd gyfres o fuddugoliaethau dros fyddinoedd llawer mwy niferus y Cyfamodwyr. Yn y diwedd, bu'r Cyfamodwyr yn fuddugol, a gorfodwyd Montroese i adael yr Alban.
Ym mis Mawrth 1650, dychwelodd Montrose i ymladd dros y brenin Siarl II, ond gorchfygwyd ef ym Mrwydr Carbisdale, a dienyddiwyd ef yng Nghaeredin.