Hanes yr Alban: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 21: Llinell 21:


==Uno a Lloegr==
==Uno a Lloegr==
Unwyd yr Alban a Lloegr yn gyfreithiol gan [[Deddfau Uno 1707|Deddfau Uno 1707]], dau [[Mesur Seneddol|Fesur Seneddol]] a basiwyd yn [[1706]] gan [[Senedd Lloegr]] ac yn [[1707]] gan [[Senedd yr Alban]]. Effaith y mesurau oedd uno'r ddwy senedd, a throi Teyrnas Lloegr a theyrnas yr Alban, o fod yn ddwy wladwriaeth ar wahan oedd yn rhannu yr un brenin, i fod yn un wladwriaeth. Daeth hyn i rym ar [[1 Mai]] [[1707]]. O hyn ymlaen rheolid gwledydd Ynys Prydain gan un Senedd yn [[Llundain]].
Unwyd yr Alban a Lloegr yn gyfreithiol gan [[Ddeddfau Uno 1707|Deddfau Uno 1707]], dau [[Mesur Seneddol|Fesur Seneddol]] a basiwyd yn [[1706]] gan [[Senedd Lloegr]] ac yn [[1707]] gan [[Senedd yr Alban]]. Effaith y mesurau oedd uno'r ddwy senedd, a throi Teyrnas Lloegr a theyrnas yr Alban, o fod yn ddwy wladwriaeth ar wahan oedd yn rhannu yr un brenin, i fod yn un wladwriaeth. Daeth hyn i rym ar [[1 Mai]] [[1707]]. O hyn ymlaen rheolid gwledydd Ynys Prydain gan un Senedd yn [[Llundain]].





Fersiwn yn ôl 14:13, 28 Rhagfyr 2007

Y cyfnod Rhufeinig

Mae'r hanesydd Rhufeinig Tacitus yn cofnodi ymgyrch ei dad-yng-nghyfraith Agricola, llywodraethwr Prydain, yn yr Alban a'i fuddugoliaeth dros y Caledoniaid dan Calgacus ym Mrwydr Mons Graupius yn y flwyddyn 83 neu 84. Fodd bynnag galwyd Agricola yn ôl i Rufain yn fuan wedyn, ac ymadawodd y Rhufeiniaid o'r tiriogaethau hyn. Adeiladwyd Mur Hadrian, yn dilyn ymweliad yr Ymerawdwr Rhufeinig Hadrian a Phrydain yn 122, gryn bellter i'r de o'r ffin bresennol rhwng yr Alban a Lloegr. Ychydig yn ddiweddarach, rhwng 142 a 144, adeiladwyd Mur Antoninus, oedd yn cynnwys Iseldiroedd yr Alban o fewn ffiniau'r Ymerodraeth.

Ugain mlynedd yn ddiweddarch, yn 164, tynnodd y Rhufeiniaid eu milwyr oddi ar y mur yma ac encilio i Fur Hadrian. Wedi cyfres o ymosodiadau yn 197, daeth yr ymerawdwr Septimius Severus i'r Alban yn 208, a thrwsiodd rannau o'r mur. Ychydig flynyddoedd wedyn, enciliodd y Rhufeiniaid eto, ac adfeiliodd y mur.

Ffurfio'r deyrnas unedig

Yn y cyfnod wedi i'r Rhufeiniaid ymadael, roedd nifer o deyrnasoedd annibynnol yn yr Alban. Roedd rhain yn cynnwys teyrnas y Pictiaid yn y gogledd-ddwyrain, teyrnas Gaeleg ei hiaith Dál Riata yn y gogledd-orllewin a theyrnasoedd Brythonig yr Hen Ogledd, yn cynnwys Ystrad Clud a'r Gododdin. Unwyd teyrnas y Pictiaid a theyrnas Dál Riata gan Cináed mac Ailpín tua 850. Ymgorfforwyd Ystrad Clud yn y dernas unedig tua 1018.

Rhyfeloedd Annibyniaeth

Robert Bruce yn annerch ei filwyr cyn Brwydr Bannockburn.

Ar 19 Mawrth 1286 lladdwyd y brenin Alexander III mewn damwain, heb adael aer amlwg i'r goron. Gan fod nifer o hawlwyr, gofynnwyd i Edward I, brenin Lloegr ddewis rhyngddynt, ond manteisiodd ef ar y cyfle i hwalio ei orcuchafiaeth ar yr Alban. Enwodd ef John Balliol yn frenin, ond pan wrthryfel Balliol yn erbyn Edward, ymosododd Edward arno a'i ddiorseddu. Am gyfnod, roedd yr Alban bron i gyd dan reolaeth Edward. Gwrthwynebwyd ef gan William Wallace, a enillodd Frwydr Pont Stirling yn ei erbyn, ond yna a orchfygwyd ym Mrwydr Falkirk. Bradychwyd Wallace a'i ddwyn i Lundain i'w ddienyddio yn 1305, ac unwaith eto ymddangosai rheolaeth Edward ar yr Alban yn ddiogel.

Ar 10 Chwefror, 1306, trefnwyd cyfarfod rhwng Robert Bruce a John Comyn, y ddau yn gallu hawlio coron yr Alban, yn Dumfries. Aeth yn gweryl, a lladdwyd Comyn ger allor yr eglwys. Gan sylweddoli fod yn rhaid iddo hawlio'r goron neu ffoi, cyhoeddodd Bruce ei hun yn frenin yr Alban, fel Robert I. Ym mis Mehefin 1306 gorchfygwyd Robert ym mrwydr Methven ac yna bu bron iddo gael ei ddal yn Strathfillan. Yn 1307 daliodd Edward wraig Robert, Elizabeth, a'i ferch, Marjorie. Bu farw Edward I ar 7 Gorffennaf, a dilynwyd ef gan ei fab, Edward II, oedd yn llawer llai galluog fel milwr.

Bu Robert a'i ddilynwyr yn ymladd rhyfel taro a rhedeg am rai blynyddoedd. Daliwyd ei frodyr Thomas ac Alexander, a'u dienyddio. Yn raddol enillodd dir, fodd bynnag, gan orchfygu y Saeson yn Glen Trool, gorchfygu Aymer de Valence, 2il Iarll Penfro ym mrwydr Loudoun Hill, ac yna gorchfygu John Comyn, 3ydd Iarll Buchan ym mrwydr Inverurie ym mis Mai 1308. Yn 1314 enillodd fuddugoliaeth ysgubol dros Edward II ym Mrwydr Bannockburn.

Parhaodd yr ymladd am flynyddoedd eto, gyda Edward, brawd Robert, yn ymgyrchu yn Iwerddon. Ym Mai 1328 arwyddodd Edward III, brenin Lloegr Gytuneb Caeredin-Northampton, oedd yn cydnabod yr Alban fel gwlad annibynnol a Robert fel ei brenin.

Uno a Lloegr

Unwyd yr Alban a Lloegr yn gyfreithiol gan Deddfau Uno 1707, dau Fesur Seneddol a basiwyd yn 1706 gan Senedd Lloegr ac yn 1707 gan Senedd yr Alban. Effaith y mesurau oedd uno'r ddwy senedd, a throi Teyrnas Lloegr a theyrnas yr Alban, o fod yn ddwy wladwriaeth ar wahan oedd yn rhannu yr un brenin, i fod yn un wladwriaeth. Daeth hyn i rym ar 1 Mai 1707. O hyn ymlaen rheolid gwledydd Ynys Prydain gan un Senedd yn Llundain.


Gweler hefyd


Ty Celtaidd Hanes y Gwledydd Celtaidd Sbiral triphlyg

Hanes yr Alban | Hanes Cernyw | Hanes Cymru | Hanes Iwerddon | Hanes Llydaw | Hanes Manaw

Gwelwch hefyd: Y Celtiaid


 Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu.