Dál Riata: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: Teynas Gaeleg ei hiaith ar arfodir gorllewinol yr Alban oedd '''Dál Riata''', hefyd '''Dalriada''' neu '''Dalriata'''. Roedd ei thiriogaeth yn yr ardaloedd sy'n awr yn [[Arg... |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) llun |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Image:Dalriada.jpg|right|thumb|200px|Dál Riata tua 580–600. Tiriogaethau'r [[Pictiaid]] mewn melyn.]] |
|||
⚫ | |||
⚫ | |||
Y farn draddodiadol oedd fod Dál Riata wedi ei sefyldu gan ymfydwyr o Iwerddon, ond mae cryn amheuaeth am hyn bellach, yn enwedig o ystyried y cofnod archaeolegol. Cyfeirir ar drigolion Dál Riata yn aml fel y ''Scotti'' yn Lladin. |
Y farn draddodiadol oedd fod Dál Riata wedi ei sefyldu gan ymfydwyr o Iwerddon, ond mae cryn amheuaeth am hyn bellach, yn enwedig o ystyried y cofnod archaeolegol. Cyfeirir ar drigolion Dál Riata yn aml fel y ''Scotti'' yn Lladin. |
Fersiwn yn ôl 16:20, 27 Rhagfyr 2007
Teyrnas Gaeleg ei hiaith ar arfodir gorllewinol yr Alban oedd Dál Riata, hefyd Dalriada neu Dalriata. Roedd ei thiriogaeth yn yr ardaloedd sy'n awr yn Argyll a Bute, a Lochaber yn yr Alban, a County Antrim yng ngogledd Iwerddon.
Y farn draddodiadol oedd fod Dál Riata wedi ei sefyldu gan ymfydwyr o Iwerddon, ond mae cryn amheuaeth am hyn bellach, yn enwedig o ystyried y cofnod archaeolegol. Cyfeirir ar drigolion Dál Riata yn aml fel y Scotti yn Lladin.
Cyrhaeddodd y deyrnas ei huchafbwynt dan Áedán mac Gabráin, ei brenin rhwng 574 a 608, ond gorchfygwyd ef ym Mrwydr Degsastan yn 603 gan Æthelfrith, brenin Northumbria. Gorchfygwyd Dyfnwal Frych (Domnall Brecc) mewn brwydrau yn Iwerddon, cyn ei orchfygu a'i ladd gan fyddin teyrnas Frythonig Ystrad Clud yn 642. Daeth y deyrnas dan reolaeth Northumbria, yna dan reolaeth y Pictiaid.
Cred rhai ysgolheigion fod Dál Riata wedi adennill ei nerth dan Áed Find (736-778), ond mae eraill yn amau hyn. Yn draddodiadol unwyd Dál Riata a theyrnas y Pictiaid gan Cináed mac Ailpín (Kenneth mac Alpin, 800-858).