Catraeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) cat |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Yr ysgolhaig Cymreig [[Thomas Stephens]] yn y [[19eg ganrif]] oedd y cyntaf i gynnig mai [[Catterick]] yn [[Swydd Efrog]] yng ngogledd [[Lloegr]] oedd "Catraeth". Derbyniwyd hyn gan Syr [[Ifor Williams]] a chan y rhan o ysgolheigion ers hynny. |
Yr ysgolhaig Cymreig [[Thomas Stephens]] yn y [[19eg ganrif]] oedd y cyntaf i gynnig mai [[Catterick]] yn [[Swydd Efrog]] yng ngogledd [[Lloegr]] oedd "Catraeth". Derbyniwyd hyn gan Syr [[Ifor Williams]] a chan y rhan o ysgolheigion ers hynny. |
||
[[Categori:Barddoniaeth Gymraeg]] |
|||
[[Categori:Yr Hengerdd]] |
|||
[[Categori:Y Cynfeirdd]] |
Fersiwn yn ôl 07:06, 27 Rhagfyr 2007
Enw lle sy'n ymddangos yn y farddoniaeth Gymraeg gynharaf, yr Hengerdd, o'r Hen Ogledd yw Catraeth.
Ceir y cyfeiriadau mwyaf adnabyddus at y lle yn Y Gododdin', sy'n cyfeirio at frwydr a ymladdwyd efallai tua'r flwyddyn 600. Dywedir yma fod brenin y Gododdin, Mynyddog Mwynfawr, wedi casglu rhyfelwyr o nifer o deyrnasoedd Brythonig ac wedi daparu gwledd iddynt am flwyddyn yn ei neuadd yn Din Eidyn (Caeredin heddiw), cyn eu gyrru ar ymgyrch i Gatraeth. Mae'n amlwg fod Catraeth ym meddiant yr Eingl ar y pryd. Lladdwyd bron y cyfan ohonynt mewn brwydr yn erbyn byddin enfawr y gelyn. Ceir cyfeiriadau at yr arwyr yn mynd i Gatraeth ar ddechrau amryw o'r penillion, er enghraifft "Gwyr a aeth gatraeth gan wawr".
Yng Nghanu Taliesin, sy'n perthyn efallai i gyfnod ychydig yn gynharach, cyferchir Urien Rheged, arglwydd Rheged fel 'Gwledig Catraeth' (Brenin Catraeth).
Yr ysgolhaig Cymreig Thomas Stephens yn y 19eg ganrif oedd y cyntaf i gynnig mai Catterick yn Swydd Efrog yng ngogledd Lloegr oedd "Catraeth". Derbyniwyd hyn gan Syr Ifor Williams a chan y rhan o ysgolheigion ers hynny.