Llyfr Aneirin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
typos
chwaneg
Llinell 6: Llinell 6:
Yn ôl y nodiadau ymyl y ddalen a geir ynddi, bu'r llawysgrif ym meddiant y beirdd [[Dafydd Nanmor]] (fl. 1450-80) o [[Teyrnas Gwynedd|Wynedd]] a [[Gwilym Tew]] (fl. 1460-80) o [[Morgannwg|Forgannwg]] ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Trosglwyddwyd y llawysgrif ryw fodd neu'i gilydd i lyfrgell [[Hengwrt]], [[Meirionnydd]], lle cafodd ei gweld gan yr hynafiaethydd [[Edward Lhuyd]] yn yr [[17eg ganrif]]. Oddi yno aeth i'r De, yn gyntaf i [[Aberdâr]] ac yna i feddiant [[Theophilus Jones]] ac wedyn [[Carnhuanawc]]. Daeth i feddiant y casglwr llawysgrifau brwd Syr Thomas Philipps a chafodd ei rhoi i [[Llyfrgell Dinas Caerdydd|Lyfrgell Dinas Caerdydd]] lle y'i diogelir hyd heddiw fel Llawysgrif Caerdydd 2.81 (Caerdydd 1 dan yr hen drefn).

Rhoddir cyfran helaeth o'r llyfr bychan hwn i'r ''Gododdin'', ac am y rheswm yna mae'n cael ei ystyried yn un o drysorau pennaf [[llenyddiaeth Gymraeg]].
Rhoddir cyfran helaeth o'r llyfr bychan hwn i'r ''Gododdin'', ac am y rheswm yna mae'n cael ei ystyried yn un o drysorau pennaf [[llenyddiaeth Gymraeg]]. Mae'r testunau eraill a geir ynddi, rhai ohonynt yn gymysg â thestun y ''Gododdin'' ei hun, yn cynnwys yr hwiangerdd unigryw ''Pais Dinogad'', marwnad i arwr a syrthiodd ym Mwrydr Strathcarron, penillion gwirebol ''Gorchan Addefon'' a ''Gorchan Maeldderw'' a briodolir i'r bardd [[Taliesin]] a ganai yn yr [[Hen Ogledd]] yn yr un ganrif ag Aneirin.

==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
Llinell 13: Llinell 13:
==Llyfryddiaeth==
==Llyfryddiaeth==
*Daniel Huws, ''Llyfrau Cymraeg 1250-1400'' (Aberystwyth, 1992). Darlith Syr [[John Williams (casglwr llawysgrifau)|John Williams]].
*Daniel Huws, ''Llyfrau Cymraeg 1250-1400'' (Aberystwyth, 1992). Darlith Syr [[John Williams (casglwr llawysgrifau)|John Williams]].
*Morfydd E. Owen, 'Hwn yw e Gododin. Aneirin ae cant.', yn Rachel Bromwich a R. Brinley Jones (gol.), ''Astudiaethau ar yr Hengerdd'' (Caerdydd, 1978)
*[[Ifor Williams]], ''Canu Aneirin'' ([[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1938; ail arg. 1961)
*[[Ifor Williams]], ''Canu Aneirin'' ([[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1938; ail arg. 1961)

Fersiwn yn ôl 00:16, 27 Rhagfyr 2007

Llyfr Aneirin

Llyfr Aneirin yw un o'r llawysgrifau cynharaf un yn y Gymraeg. Cafodd ei llunio tua'r flwyddyn 1265, a dim ond Llyfr Du Caerfyrddin sydd fymryn yn gynharach o blith y llawysgrifau Cymraeg (ceir rhai llawysgrifau Cymreig a ysgrifenwyd yn Lladin sy'n gynharach na'r ddau lyfr hyn). Mae'n cynnwys testun Y Gododdin gan Aneirin a sawl cerdd arall sy'n perthyn i'r 6ed ganrif efallai, er yr anghytunir am hynny.

Llawysgrif femrwn 6¾ x 5 modfedd yw hi, gyda chyfamswm o 42 tudalen ffolio, 38 ohonynt yn dwyn llawysgrifen. Ceir dwy law ynddi, bron yn gyfoes, ac mae o leiaf tri o dudalennau ffolio yn eisiau ar y diwedd. Rhwymwyd y cyfan mewn lledr llo rywbryd yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol.[1]

Yn ôl y nodiadau ymyl y ddalen a geir ynddi, bu'r llawysgrif ym meddiant y beirdd Dafydd Nanmor (fl. 1450-80) o Wynedd a Gwilym Tew (fl. 1460-80) o Forgannwg ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Trosglwyddwyd y llawysgrif ryw fodd neu'i gilydd i lyfrgell Hengwrt, Meirionnydd, lle cafodd ei gweld gan yr hynafiaethydd Edward Lhuyd yn yr 17eg ganrif. Oddi yno aeth i'r De, yn gyntaf i Aberdâr ac yna i feddiant Theophilus Jones ac wedyn Carnhuanawc. Daeth i feddiant y casglwr llawysgrifau brwd Syr Thomas Philipps a chafodd ei rhoi i Lyfrgell Dinas Caerdydd lle y'i diogelir hyd heddiw fel Llawysgrif Caerdydd 2.81 (Caerdydd 1 dan yr hen drefn).

Rhoddir cyfran helaeth o'r llyfr bychan hwn i'r Gododdin, ac am y rheswm yna mae'n cael ei ystyried yn un o drysorau pennaf llenyddiaeth Gymraeg. Mae'r testunau eraill a geir ynddi, rhai ohonynt yn gymysg â thestun y Gododdin ei hun, yn cynnwys yr hwiangerdd unigryw Pais Dinogad, marwnad i arwr a syrthiodd ym Mwrydr Strathcarron, penillion gwirebol Gorchan Addefon a Gorchan Maeldderw a briodolir i'r bardd Taliesin a ganai yn yr Hen Ogledd yn yr un ganrif ag Aneirin.

Cyfeiriadau

  1. Disgrifiad John Gwenogvryn Evans, dyfynwyd gan Ifor Williams yn Canu Aneirin, tud. xii.

Llyfryddiaeth

  • Daniel Huws, Llyfrau Cymraeg 1250-1400 (Aberystwyth, 1992). Darlith Syr John Williams.
  • Morfydd E. Owen, 'Hwn yw e Gododin. Aneirin ae cant.', yn Rachel Bromwich a R. Brinley Jones (gol.), Astudiaethau ar yr Hengerdd (Caerdydd, 1978)
  • Ifor Williams, Canu Aneirin (Gwasg Prifysgol Cymru, 1938; ail arg. 1961)