Llyfr Aneirin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 200px|bawd|''Llyfr Aneirin'' '''Llyfr Aneirin''' yw un o'r llawysgrifau cynharaf un yn y Gymraeg. Cafodd ei llunio tua'r flwyddyn 1265, a dim on...
 
typos
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Gododdin1.jpg|200px|bawd|''Llyfr Aneirin'']]
[[Delwedd:Gododdin1.jpg|200px|bawd|''Llyfr Aneirin'']]
'''Llyfr Aneirin''' yw un o'r [[llawysgrif]]au cynharaf un yn y [[Gymraeg]]. Cafodd ei llunio tua'r flwyddyn [[1265]], a dim ond ''[[Llyfr Du Caerfyrddin]]'' sydd fymryn yn gynharach o blith y llawysgrifau Cymraeg (ceir rhai [[llawysgrifau Cymreig]] [[Lladin]] sy'n gynharach na'r ddau lyfr hyn). Mae'n cynnwys testun ''[[Y Gododdin]]'' gan [[Aneirin]] a sawl cerdd arall sy'n perthyn i'r [[6ed ganrif]] efallai, er yr anghytunir am hynny.
'''Llyfr Aneirin''' yw un o'r [[llawysgrif]]au cynharaf un yn y [[Gymraeg]]. Cafodd ei llunio tua'r flwyddyn [[1265]], a dim ond ''[[Llyfr Du Caerfyrddin]]'' sydd fymryn yn gynharach o blith y llawysgrifau Cymraeg (ceir rhai [[llawysgrifau Cymreig]] a ysgrifenwyd yn [[Lladin]] sy'n gynharach na'r ddau lyfr hyn). Mae'n cynnwys testun ''[[Y Gododdin]]'' gan [[Aneirin]] a sawl cerdd arall sy'n perthyn i'r [[6ed ganrif]] efallai, er yr anghytunir am hynny.


Llawysgrif [[memrwn|femrwn]] 6¾ x 5 modfedd yw hi, gyda chyfamswm o 42 tudalen ffolio, 38 ohonynt yn dwyn llawysgrifen. Ceir dwy law ynddi, bron yn gyfoes, ac mae o leiaf tri o dudalennau ffolio yn eisiau ar y diwedd. Rhwymwyd y cyfan mewn lledr llo rywbryd yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol.<ref>Disgrifiad [[John Gwenogvryn Evans]], dyfynwyd gan Ifor Williams yn ''Canu Aneirin'', tud. xii.</ref>
Llawysgrif [[memrwn|femrwn]] 6¾ x 5 modfedd yw hi, gyda chyfamswm o 42 tudalen ffolio, 38 ohonynt yn dwyn llawysgrifen. Ceir dwy law ynddi, bron yn gyfoes, ac mae o leiaf tri o dudalennau ffolio yn eisiau ar y diwedd. Rhwymwyd y cyfan mewn lledr llo rywbryd yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol.<ref>Disgrifiad [[John Gwenogvryn Evans]], dyfynwyd gan Ifor Williams yn ''Canu Aneirin'', tud. xii.</ref>


Yn ôl y nodiadau ymyl y ddalen a geir ynddi, bu'r llawysgrif ym meddiant y beirdd [[Dafydd Nanmor]] (fl. 1450-80) o Wynedd a [[Gwilym Tew]] (fl. 1460-80) o Forgannwg ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Trosglwyddwyd y llawysgrif ryw fodd neu'i gilydd i lyfregll [[Hengwrt]] lle cafodd ei gweld gan yr hynafiaethydd [[Edward Lhuyd]] yn yr [[17eg ganrif]]. Oddi yno aeth i'r De, yn gyntaf i [[Aberdâr]] ac yna i feddiant [[Theophilus Jones]] ac wedyn [[Carnhuanawc]]. Daeth i feddiant y casglwr brwd Syr Thomas Philipps a chafodd ei rhoi i [[Llyfrgell Dinas Caerdydd|Lyfrgell Dinas Caerdydd]] lle y'i diogelir hyd heddiw fel Llawysgrif Caerdydd 2.81 (Caerdydd 1 dan yr hen drefn).
Yn ôl y nodiadau ymyl y ddalen a geir ynddi, bu'r llawysgrif ym meddiant y beirdd [[Dafydd Nanmor]] (fl. 1450-80) o [[Teyrnas Gwynedd|Wynedd]] a [[Gwilym Tew]] (fl. 1460-80) o [[Morgannwg|Forgannwg]] ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Trosglwyddwyd y llawysgrif ryw fodd neu'i gilydd i lyfrgell [[Hengwrt]], [[Meirionnydd]], lle cafodd ei gweld gan yr hynafiaethydd [[Edward Lhuyd]] yn yr [[17eg ganrif]]. Oddi yno aeth i'r De, yn gyntaf i [[Aberdâr]] ac yna i feddiant [[Theophilus Jones]] ac wedyn [[Carnhuanawc]]. Daeth i feddiant y casglwr llawysgrifau brwd Syr Thomas Philipps a chafodd ei rhoi i [[Llyfrgell Dinas Caerdydd|Lyfrgell Dinas Caerdydd]] lle y'i diogelir hyd heddiw fel Llawysgrif Caerdydd 2.81 (Caerdydd 1 dan yr hen drefn).


Rhoddir cyfran helaeth o'r llyfr bychan hwn i'r ''Gododdin'', ac am y rheswm yna mae'n cael ei ystyries yn un o drysorau pennaf [[llenyddiaeth Gymraeg]].
Rhoddir cyfran helaeth o'r llyfr bychan hwn i'r ''Gododdin'', ac am y rheswm yna mae'n cael ei ystyried yn un o drysorau pennaf [[llenyddiaeth Gymraeg]].


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 00:08, 27 Rhagfyr 2007

Llyfr Aneirin

Llyfr Aneirin yw un o'r llawysgrifau cynharaf un yn y Gymraeg. Cafodd ei llunio tua'r flwyddyn 1265, a dim ond Llyfr Du Caerfyrddin sydd fymryn yn gynharach o blith y llawysgrifau Cymraeg (ceir rhai llawysgrifau Cymreig a ysgrifenwyd yn Lladin sy'n gynharach na'r ddau lyfr hyn). Mae'n cynnwys testun Y Gododdin gan Aneirin a sawl cerdd arall sy'n perthyn i'r 6ed ganrif efallai, er yr anghytunir am hynny.

Llawysgrif femrwn 6¾ x 5 modfedd yw hi, gyda chyfamswm o 42 tudalen ffolio, 38 ohonynt yn dwyn llawysgrifen. Ceir dwy law ynddi, bron yn gyfoes, ac mae o leiaf tri o dudalennau ffolio yn eisiau ar y diwedd. Rhwymwyd y cyfan mewn lledr llo rywbryd yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol.[1]

Yn ôl y nodiadau ymyl y ddalen a geir ynddi, bu'r llawysgrif ym meddiant y beirdd Dafydd Nanmor (fl. 1450-80) o Wynedd a Gwilym Tew (fl. 1460-80) o Forgannwg ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Trosglwyddwyd y llawysgrif ryw fodd neu'i gilydd i lyfrgell Hengwrt, Meirionnydd, lle cafodd ei gweld gan yr hynafiaethydd Edward Lhuyd yn yr 17eg ganrif. Oddi yno aeth i'r De, yn gyntaf i Aberdâr ac yna i feddiant Theophilus Jones ac wedyn Carnhuanawc. Daeth i feddiant y casglwr llawysgrifau brwd Syr Thomas Philipps a chafodd ei rhoi i Lyfrgell Dinas Caerdydd lle y'i diogelir hyd heddiw fel Llawysgrif Caerdydd 2.81 (Caerdydd 1 dan yr hen drefn).

Rhoddir cyfran helaeth o'r llyfr bychan hwn i'r Gododdin, ac am y rheswm yna mae'n cael ei ystyried yn un o drysorau pennaf llenyddiaeth Gymraeg.

Cyfeiriadau

  1. Disgrifiad John Gwenogvryn Evans, dyfynwyd gan Ifor Williams yn Canu Aneirin, tud. xii.

Llyfryddiaeth