Isabelle o Ffrainc: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 31: Llinell 31:
[[en:Isabella of France]]
[[en:Isabella of France]]
[[eo:Izabela de Francio]]
[[eo:Izabela de Francio]]
[[es:Isabel de Francia, Reina de Inglaterra]]
[[es:Isabel de Francia (1292-1358)]]
[[fi:Isabella de France]]
[[fi:Isabella de France]]
[[fr:Isabelle de France (1292-1358)]]
[[fr:Isabelle de France (1292-1358)]]

Fersiwn yn ôl 00:32, 24 Rhagfyr 2007

Sophie Marceau yn rhan Y Dywysoges Isabelle yn y ffilm Braveheart

Tywysoges o Ffrainc a briododd Edward II o Loegr oedd Isabelle o Ffrainc neu Isabelle de France (1295 - 22 Awst, 1358).

Hanes

Cafodd Isabelle ei geni ym Mharis, yn ferch i'r brenin Philippe IV ac yn chwaer i dri o frenhinoedd Ffrainc.

A hithau'n ferch 14 oed, bu rhaid iddi briodi Edward II o Loegr, mab y brenin Edward I, yn 1308. Diflasodd yn llwyr ar ei ŵr ar croeso llugoer a gawsai yn llys Lloegr, a dychwelodd i Ffrainc yn 1325 ar ôl i'w frawd Siarl IV o Ffrainc gipio llawer o diriogaethau'r Saeson yn Ffrainc.

Syrthiasai mewn cariad â'r barwn Roger de Mortimer (Iarll y Mers yn ddiweddarach) tra yn Lloegr, ac yn 1326 arweiniodd Isabelle fyddin i Loegr. Trechodd fyddin Edward II a gorfododd iddo ildio gorsedd Lloegr i'w mab, Edward, a oedd yn fwy derbyniol i'r barwniaid. Rheolodd Isabelle a'i chariad Roger de Mortimer yn enw Edward, a oedd yn rhy ifanc i fod yn frenin. Yn 1327 llofruddiwyd Edward yng Nghastell Berkeley, ar orchymyn Roger ac Isabelle yn ôl pob tebyg.

Ond pan ddaeth Edward i'r orsedd fel Edward III, trôdd ar ei fam a Mortimer a chawsant eu harestio. Dienyddwyd Mortimer yn y ffordd erchyll arferol ar gyfer y rhai a ystyriwyd yn fradwyr a gorfodwyd Isabelle i ymneilltuo i gwfent yn Castle Rising, ger King's Lynn, lle bu aros am weddill ei dyddiau.

Plant

Ffuglen

Mae Isabell yn gymeriad canolog yn y ffilm Braveheart lle mae'n cael ei phortreadu fel cariad William Wallace.