George Fox: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
||
*''Journal'' (1874). Cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth. |
*''Journal'' (1874). Cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth. |
||
==Gweler hefyd== |
|||
*[[Crynwyr]] |
|||
*[[Crynwriaeth yng Nghymru]] |
|||
{{eginyn Saeson}} |
{{eginyn Saeson}} |
Fersiwn yn ôl 21:26, 17 Rhagfyr 2007
Arweinydd crefyddol o Sais a sylfaenydd Crynwriaeth a Cymdeithas Grefyddol Cyfeillion oedd George Fox (1624 - 1691). Fe'i ganwyd yn Fenny Drayton, Swydd Gaerlŷr, Lloegr.
Cafodd ei fagu yn Biwritan ond yn ddyn ifanc cafodd weledigaeth o'r "goleuni mewnol" a dechreuodd ymosod yn eiriol ar yr eglwys sefydledig a ffurfioldeb o bob math mewn crefydd. Dechreuodd bregethu yn 1647. Ni fedrai oddef offeiriaid o unrhyw fath, na milwyr a milwriaeth. Dioddefodd ef a'i ddilynwyr erledigaeth am flynyddoedd.
Ymwelodd â Chymru a'r Alban lle enillodd ddilynwyr newydd. Teithiodd yn ogystal i Jamaica, Barbados, America, Yr Iseldiroedd a'r Almaen. Ymhlith ei brif disgyblion oedd John ap John yng Nghymru, Robert Barclay a William Penn, sylfaenydd Pennsylvania a fu'n gartref i nifer fawr o Grynwyr alltud.
Llyfryddiaeth
- Journal (1874). Cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.