Turtur dorchog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B d
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 20: Llinell 20:
Ymddengys i'r Durtur Dorchog gyrraedd y [[Bahamas]] trwy ddamwain, ac oddi yno lledaenodd i [[Florida]] ac erbyn hyn i ran helaeth o [[Unol Daleithiau America]]. Un yn ymgartrefu'n hawdd mewn unrhyw leoliad. Nid yw'n [[aderyn mudol]], er y gellir gweld symudiadau weithiau, yn enwedig mewn tywydd oer.

Mae'n nythu mewn coed, yn dodwy dau wy ar y tro. Gall nythu nifer o weithiau mewn blwyddyn. Gellir gweld yr aderyn yma o gwmpas gerddi yn aml iawn, ac mae'n medru bod yn ddôf iawn. Mae'n golomen weddol fychan, gyda phlu llwyd golau, a gwyn ar flaen y gynffon. Daw'r enw o'r hanner coler ddu ar y gwegil.
Mae'n nythu mewn coed, yn dodwy dau wy ar y tro. Gall nythu nifer o weithiau mewn blwyddyn. Gellir gweld yr aderyn yma o gwmpas gerddi yn aml iawn, ac mae'n medru bod yn ddof iawn. Mae'n golomen weddol fychan, gyda phlu llwyd golau, a gwyn ar flaen y gynffon. Daw'r enw o'r hanner coler ddu ar y gwegil.

Yn y gaeaf gall cryn nifer o adar gasglu yn haid, yn enwedig lle mae digonedd o fwyd ar gael.
Yn y gaeaf gall cryn nifer o adar gasglu yn haid, yn enwedig lle mae digonedd o fwyd ar gael.

Fersiwn yn ôl 12:38, 24 Ebrill 2017

Turtur dorchog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Columbiformes
Teulu: Columbidae
Genws: Streptopelia
Rhywogaeth: S. decaocto
Enw deuenwol
Streptopelia decaocto
(Frivaldszky, 1838)
Ŵy Streptopelia decaocto

Mae'r Durtur Dorchog (Streptopelia decaocto) yn aderyn sydd a hanes diddorol iawn. Yn wreiddiol yr oedd i'w gael yn y gwledydd rhwng de-ddwyrain Ewrop a Japan, ond tua dechrau'r ugeinfed ganrif dechreuodd wladychu ardaloedd newydd. Erbyn diwedd y 1950au yr oedd wedi cyrraedd Prydain, ac yn fuan wedyn Iwerddon. Yn Sgandinafia mae'n nythu ymhell i'r gogledd erbyn hyn.

Ymddengys i'r Durtur Dorchog gyrraedd y Bahamas trwy ddamwain, ac oddi yno lledaenodd i Florida ac erbyn hyn i ran helaeth o Unol Daleithiau America. Un yn ymgartrefu'n hawdd mewn unrhyw leoliad. Nid yw'n aderyn mudol, er y gellir gweld symudiadau weithiau, yn enwedig mewn tywydd oer.