Rhethreg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
eginyn
 
cychwyn ar ehangu
Llinell 1: Llinell 1:
Celfyddyd neu astudiaeth llefaru ac ysgrifennu yw '''rhethreg''',<ref>{{dyf GPC |gair=rhethreg |dyddiadcyrchiad=8 Ionawr 2017 }}</ref> '''rheitheg''', '''areitheg''' neu '''areithyddiaeth'''. Yn ei ystyr eangaf, mae'r gair hwn yn golygu'r ddamcaniaeth o huodledd, pa un ai llafaredig neu ysgrifenedig. Ei amcan yw egluro'r arferion sydd yn rheoli cyfansoddiadau [[rhyddiaith|rhyddieithol]] ac [[araith|areithiau]] fel ei gilydd, a fwriedir i ddylanwadu ar farn neu deimladau'r gynulledifa. Gan hynny, mae'n ymdrin â'r hyn sydd yn dwyn perthynas â phrydferthwch a nerth arddull – hynny yw, trwy ddefnyddio cywirdeb ieithyddol, cyfansoddi brawddegau yn rheolaidd, ac arfer ffigurau a chymariaethau priodol. Yn ei ystyr manylaf a mwyaf cyfyng, mae rhethreg yn ymwneud â'r egwyddorion sylfaenol ar ba rai y mae anerchiadau areithyddol yn cael eu cyfansoddi. Rhethregwr ydyw un sydd yn dysgu ysgrifennu ar areithyddiaeth, ac areithiwr ydyw un sydd yn ymarfer y gelfyddyd.
Celfyddyd neu astudiaeth llefaru ac ysgrifennu yw '''rhethreg'''.<ref>{{dyf GPC |gair=rhethreg |dyddiadcyrchiad=8 Ionawr 2017 }}</ref> Roedd yn gyfrwng hollbwysig ym mywyd deallusol yr hen Roegwyr a Rhufeiniaid, ac yn bwnc annatod yn addysg Ewropeaidd [[yr Oesoedd Canol]].

Prif amcan rhethreg yw argyhoeddi a pherswadio. Nid yw'n ymwneud â'r olrheiniad o wirionedd ond megis ail beth yn unig. Fel ei sylfaen, y mae'n cymryd yn ganiataol fodolaeth egwyddorion neu ffeithiau; a'r amcan ganddi ydyw, cyflwyno'r rhai hynny yn y ffurf mwyaf cyfaddasol i ennill cydsyniad y deall a gwneuthur argraff ar y galon, er peri i un ymatal rhag, neu i'w dueddu tuag at ryw benderfyniad neu weithrediad neilltuol.

Roedd rhethreg yn gyfrwng hollbwysig ym mywyd deallusol yr [[hen Roeg]]wyr a [[Rhufain hynafol|Rhufeiniaid]], ac yn un o wyddorau'r [[trifiwm]] yn addysg Ewropeaidd [[yr Oesoedd Canol]]. Yr ysgrifenwyr enwocaf ar rethreg ac areithyddiaeth yn mysg yr hynafiaid oedd [[Aristoteles]], [[Cicero]], a [[Quintilian]], ac mewn amseroedd diweddar y Saeson Blair, Campbell, Whately, a Spalding, yr Almaenwyr Erneste Maass, Schott, Fichter, a Falknann, a'r Ffrancod Rollin, Gilbery, La Batteux, La Harpe, Marmontel, ac Andrieux.

== Gweler hefyd ==
* [[Cwestiwn rhethregol]]


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}

{{Testun Y Gwyddoniadur Cymreig}}


[[Categori:Rhethreg| ]]
[[Categori:Rhethreg| ]]
[[Categori:Ieithyddiaeth]]
[[Categori:Ieithyddiaeth]]
[[Categori:Llenyddiaeth]]
[[Categori:Meddwl beirniadol]]
[[Categori:Meddwl beirniadol]]
{{eginyn ieithyddiaeth}}

Fersiwn yn ôl 21:16, 23 Ebrill 2017

Celfyddyd neu astudiaeth llefaru ac ysgrifennu yw rhethreg,[1] rheitheg, areitheg neu areithyddiaeth. Yn ei ystyr eangaf, mae'r gair hwn yn golygu'r ddamcaniaeth o huodledd, pa un ai llafaredig neu ysgrifenedig. Ei amcan yw egluro'r arferion sydd yn rheoli cyfansoddiadau rhyddieithol ac areithiau fel ei gilydd, a fwriedir i ddylanwadu ar farn neu deimladau'r gynulledifa. Gan hynny, mae'n ymdrin â'r hyn sydd yn dwyn perthynas â phrydferthwch a nerth arddull – hynny yw, trwy ddefnyddio cywirdeb ieithyddol, cyfansoddi brawddegau yn rheolaidd, ac arfer ffigurau a chymariaethau priodol. Yn ei ystyr manylaf a mwyaf cyfyng, mae rhethreg yn ymwneud â'r egwyddorion sylfaenol ar ba rai y mae anerchiadau areithyddol yn cael eu cyfansoddi. Rhethregwr ydyw un sydd yn dysgu ysgrifennu ar areithyddiaeth, ac areithiwr ydyw un sydd yn ymarfer y gelfyddyd.

Prif amcan rhethreg yw argyhoeddi a pherswadio. Nid yw'n ymwneud â'r olrheiniad o wirionedd ond megis ail beth yn unig. Fel ei sylfaen, y mae'n cymryd yn ganiataol fodolaeth egwyddorion neu ffeithiau; a'r amcan ganddi ydyw, cyflwyno'r rhai hynny yn y ffurf mwyaf cyfaddasol i ennill cydsyniad y deall a gwneuthur argraff ar y galon, er peri i un ymatal rhag, neu i'w dueddu tuag at ryw benderfyniad neu weithrediad neilltuol.

Roedd rhethreg yn gyfrwng hollbwysig ym mywyd deallusol yr hen Roegwyr a Rhufeiniaid, ac yn un o wyddorau'r trifiwm yn addysg Ewropeaidd yr Oesoedd Canol. Yr ysgrifenwyr enwocaf ar rethreg ac areithyddiaeth yn mysg yr hynafiaid oedd Aristoteles, Cicero, a Quintilian, ac mewn amseroedd diweddar y Saeson Blair, Campbell, Whately, a Spalding, yr Almaenwyr Erneste Maass, Schott, Fichter, a Falknann, a'r Ffrancod Rollin, Gilbery, La Batteux, La Harpe, Marmontel, ac Andrieux.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1.  rhethreg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Ionawr 2017.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.