Richard Francis Burton: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B cat
Llinell 26: Llinell 26:
[[Categori:Amlieithyddion]]
[[Categori:Amlieithyddion]]
[[Categori:Awduron llyfrau taith]]
[[Categori:Awduron llyfrau taith]]
[[Categori:Beirdd Saesneg]]
[[Categori:Beirdd Seisnig yn yr iaith Saesneg]]
[[Categori:Beirdd Seisnig]]
[[Categori:Capteiniaid y Fyddin Brydeinig]]
[[Categori:Capteiniaid y Fyddin Brydeinig]]
[[Categori:Cartograffwyr]]
[[Categori:Cartograffwyr]]
Llinell 36: Llinell 35:
[[Categori:Genedigaethau 1821]]
[[Categori:Genedigaethau 1821]]
[[Categori:Ieithyddion Seisnig]]
[[Categori:Ieithyddion Seisnig]]
[[Categori:Llenorion Saesneg]]
[[Categori:Llenorion Seisnig y 19eg ganrif]]
[[Categori:Llenorion Seisnig y 19eg ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau 1890]]
[[Categori:Marwolaethau 1890]]

Fersiwn yn ôl 17:10, 23 Ebrill 2017

Richard Francis Burton

Daearyddwr, fforiwr, cyfieithydd, llenor, milwr, dwyreinydd, cartograffydd, ethnolegydd, ysbïwr, ieithydd, bardd, cleddyfwr, a diplomydd o Sais oedd y Capten Syr Richard Francis Burton KCMG FRGS (19 Mawrth 182120 Hydref 1890). Roedd yn enwog am ei deithiau yn Asia, Affrica a'r Amerig yn ogystal â'i wybodaeth eang o ieithoedd a diwylliannau. Yn ôl un gyfrif, yr oedd yn medru siarad 29 o ieithoedd Ewropeaidd, Asiaidd ac Affricanaidd.

Ymhlith ei gampau enwocaf yw teithio mewn cuddwisg i Mecca, cyfieithu'r Mil ac un o nosweithiau o'r Arabeg i'r Saesneg mewn argraffiad heb ei sensro, cyhoeddi'r Kama Sutra yn Saesneg, a theithio â John Hanning Speke dan arweiniad y tywysydd Sidi Mubarak Bombay i ymweld â Llynnoedd Mawr Affrica wrth chwilio am darddiad yr Afon Nîl. Beirniadodd Burton bolisïau trefedigaethol yn ei waith, er anfantais i'w yrfa. Roedd yn awdur toreithiog a dysgedig ac ysgrifennodd nifer o lyfrau ac erthyglau ysgolheigaidd ar bynciau gan gynnwys ymddygiad dynol, teithio, hebogyddiaeth, cleddyfa, ymddygiad rhywiol, ac ethnograffeg. Nodwedd unigryw o'i lyfrau yw'r troednodion ac atodiadau helaeth sy'n cynnwys sylwadau nodedig a gwybodaeth gyflawn.

Roedd yn gapten ym myddin Cwmni Prydeinig India'r Dwyrain a gwasanaethodd yn India, ac am gyfnod byr yn Rhyfel Crimea. Wedi hyn cafodd ei gyflogi gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol i fforio arfordir dwyreiniol Affrica a daeth yn yr Ewropead cyntaf i weld Llyn Tanganyika. Yn hwyrach gwasanaethodd fel conswl dros Brydain yn Fernando Po, Santos, Damascus a Trieste. Roedd yn Gymrawd y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol a chafodd ei urddo'n farchog (KCMG) ym 1886.

Cyfeiriadau