Afaon fab Taliesin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q4688801 (translate me)
B →‎top: clean up, replaced: 6ed ganrif → 6g using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
Yn [[llenyddiaeth Gymraeg]] yr [[Oesoedd Canol]], gŵr ifanc doeth a gysylltir â chanu [[gwireb]]ol oedd '''Afaon fab Taliesin'''. Yn ôl traddodiad roedd yn fab i'r bardd enwog [[Taliesin]] (6ed ganrif), ond nid oes unrhyw brawf hanesyddol am hynny ac mae'n fwy tebyg iddo berthyn i gylch y chwedlau am y Taliesin chwedlonol, [[Taliesin Ben Beirdd]]. Mae'r amrywiadau ar ei enw yn cynnwys y ffurf '''Addaon fab Taliesin'''.
Yn [[llenyddiaeth Gymraeg]] yr [[Oesoedd Canol]], gŵr ifanc doeth a gysylltir â chanu [[gwireb]]ol oedd '''Afaon fab Taliesin'''. Yn ôl traddodiad roedd yn fab i'r bardd enwog [[Taliesin]] (6g), ond nid oes unrhyw brawf hanesyddol am hynny ac mae'n fwy tebyg iddo berthyn i gylch y chwedlau am y Taliesin chwedlonol, [[Taliesin Ben Beirdd]]. Mae'r amrywiadau ar ei enw yn cynnwys y ffurf '''Addaon fab Taliesin'''.


Cyfeirir at Afaon yn y chwedl fwrlesg [[Cymraeg Canol|Gymraeg Canol]] ''[[Breuddwyd Rhonabwy]]'' fel un o farchogion llys [[Arthur]] a'r "gŵr ifanc doethaf a mwyaf dysgedig yn y deyrnas". Ceir cyfeiriad moel ato mewn cerdd a gedwir yn [[Llyfr Taliesin]] yn ogystal. Priodolir iddo gyfresi o [[englyn]]ion doethineb dan yr enw 'Cyssul Afaon/Addaon' ("Cyngor Afaon") mewn sawl llawysgrif.
Cyfeirir at Afaon yn y chwedl fwrlesg [[Cymraeg Canol|Gymraeg Canol]] ''[[Breuddwyd Rhonabwy]]'' fel un o farchogion llys [[Arthur]] a'r "gŵr ifanc doethaf a mwyaf dysgedig yn y deyrnas". Ceir cyfeiriad moel ato mewn cerdd a gedwir yn [[Llyfr Taliesin]] yn ogystal. Priodolir iddo gyfresi o [[englyn]]ion doethineb dan yr enw 'Cyssul Afaon/Addaon' ("Cyngor Afaon") mewn sawl llawysgrif.

Fersiwn yn ôl 20:33, 22 Ebrill 2017

Yn llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, gŵr ifanc doeth a gysylltir â chanu gwirebol oedd Afaon fab Taliesin. Yn ôl traddodiad roedd yn fab i'r bardd enwog Taliesin (6g), ond nid oes unrhyw brawf hanesyddol am hynny ac mae'n fwy tebyg iddo berthyn i gylch y chwedlau am y Taliesin chwedlonol, Taliesin Ben Beirdd. Mae'r amrywiadau ar ei enw yn cynnwys y ffurf Addaon fab Taliesin.

Cyfeirir at Afaon yn y chwedl fwrlesg Gymraeg Canol Breuddwyd Rhonabwy fel un o farchogion llys Arthur a'r "gŵr ifanc doethaf a mwyaf dysgedig yn y deyrnas". Ceir cyfeiriad moel ato mewn cerdd a gedwir yn Llyfr Taliesin yn ogystal. Priodolir iddo gyfresi o englynion doethineb dan yr enw 'Cyssul Afaon/Addaon' ("Cyngor Afaon") mewn sawl llawysgrif.

Cyfeirir at Afaon mewn tri o Drioedd Ynys Prydain. Roedd yn un o 'Dri Tharw Unben' yr ynys, gydag Elinwy fab Cadegr a Chynhafal fab Argad (Triawd 7). Fe'i enwir yn un o 'Dri Aerfeddawg' (arweinwyr brwydr) yr ynys gyda Selyf fab Cynan Garwyn ac Urien fab Cynfarch (Triawd 25). Rhestrir ei lofruddio gan arwr anhysbys o'r enw Llawgad Trwm Bargawd Eidyn fel un o 'Dri Anfad Gyflafan Ynys Brydain'.

Ffynhonnell

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, arg. newydd 1991)