Cymraeg Canol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 14eg ganrif14g using AWB
B →‎top: clean up, replaced: 12fed12g using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
{{Cymraeg}}
{{Cymraeg}}
Mae '''Cymraeg Canol''' yn enw ar gyfnod yn hanes yr [[Cymraeg|iaith Gymraeg]] a estynnodd o'r [[12fed ganrif|12fed]] i'r [[14g]]. Mae llawer o [[Llawysgrifau Cymreig|lawysgrifau]] ar gael o'r cyfnod hwn, gan gynnwys [[Llyfr Coch Hergest]], [[Llyfr Gwyn Rhydderch]], [[Llyfr Du Caerfyrddin]], a thestunau [[Cyfraith Hywel Dda|Gyfraith]] [[Hywel Dda]].
Mae '''Cymraeg Canol''' yn enw ar gyfnod yn hanes yr [[Cymraeg|iaith Gymraeg]] a estynnodd o'r [[12g]] i'r [[14g]]. Mae llawer o [[Llawysgrifau Cymreig|lawysgrifau]] ar gael o'r cyfnod hwn, gan gynnwys [[Llyfr Coch Hergest]], [[Llyfr Gwyn Rhydderch]], [[Llyfr Du Caerfyrddin]], a thestunau [[Cyfraith Hywel Dda|Gyfraith]] [[Hywel Dda]].


Nid llên draddodiadol yn unig a ysgrifennid yng nghyfnod Cymraeg Canol - mae yn y llawysgrifau lawer o gyfieithiadau o ieithoedd eraill fel y [[Ffrangeg]] a'r [[Lladin]].
Nid llên draddodiadol yn unig a ysgrifennid yng nghyfnod Cymraeg Canol - mae yn y llawysgrifau lawer o gyfieithiadau o ieithoedd eraill fel y [[Ffrangeg]] a'r [[Lladin]].

Fersiwn yn ôl 19:14, 22 Ebrill 2017

Cymraeg
Baner Cymru
Baner Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
y Gymraeg
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu


Mae Cymraeg Canol yn enw ar gyfnod yn hanes yr iaith Gymraeg a estynnodd o'r 12g i'r 14g. Mae llawer o lawysgrifau ar gael o'r cyfnod hwn, gan gynnwys Llyfr Coch Hergest, Llyfr Gwyn Rhydderch, Llyfr Du Caerfyrddin, a thestunau Gyfraith Hywel Dda.

Nid llên draddodiadol yn unig a ysgrifennid yng nghyfnod Cymraeg Canol - mae yn y llawysgrifau lawer o gyfieithiadau o ieithoedd eraill fel y Ffrangeg a'r Lladin.

Gellir gwahaniaethu rhwng Cymraeg Canol Cynnar a Chymraeg Canol Diweddar. Mae'r testunau hynaf, e.e., rhai y Cynfeirdd, yn perthyn i gyfnod Hen Gymraeg, ond wedi cael nodweddion yr iaith ddiweddaraf yn ystod eu trosglwyddo, ac felly mae'n rhaid gwahaniaethu rhwng y ddwy elfen.

Mewn Cymraeg Canol yr ysgrifennwyd Pedair Cainc y Mabinogi a chwedlau eraill sy'n ymwneud â'r Brenin Arthur a'i gylch, sef Y Tair Rhamant a Culhwch ac Olwen, ynghyd â chwedlau brodorol fel Breuddwyd Macsen a Cyfranc Lludd a Llefelys.

Orgraff

Nid oedd orgraff safonol yng nghyfnod Cymraeg Canol fel yn yr iaith gyfoes. Dyma rai nodweddion amgen orgraff Cymraeg Canol nad ydynt yn bresennol yn yr iaith heddiw:

  • Defnyddir k a c am y sain k (dim ond c sydd mewn Cymraeg Cyfoes).
  • Ni nodir y treiglad meddal a newidiadau cytseiniaid rhwng llafariaid sydd wedi darfod yn y Frythoneg (gweler Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg)
  • Nid oes modd safonol i nodi'r treiglad trwynol: gellir gweld sillafiadau fel yg gwlad, y ngwlad a.y.y.b.
  • Gall y llythyren u olygu f heddiw, yn arbennig rhwng llafariaid, felly ystauell, niuer. Defnyddiwyd y llythyren f am y ff heddiw.

Gramadeg

Seineg a seinyddiaeth

Gellir derbyn bod seiniau Cymraeg Canol yn debyg i seiniau Cymraeg Modern. Yr unig eithriad ydy'r sain a ysgrifennir fel u [ʉ]; sain fel y ceir yn hus Norwyeg oedd honno, nid sain [ɨ, i] y tafodieithoedd cyfoes.

Mewn rhai testunau Cymraeg Canol, gwelir nodweddion tafodieithol sy'n debyg i'r rheini a geir heddiw: e.e., gall y sain [j] gael ei golli rhwng cytsain a llafariad, fel mewn llawer o dafodieithoedd y De. Gall /x/ (ch) gael ei newid i /h/ hefyd.

Morffoleg

Mae Cymraeg Canol yn nes i'r hen ieithoedd Celtaidd eraill, e.e., Hen Wyddeleg, yn ei morffoleg. Er enghraifft, ceir y terfyniadau -wŷs, -ws, -es, -as , ar gyfer y trydydd person unigol amser gorffennol mewn Cymraeg Canol yn ogystal â'r ffurf –odd. Ceir hefyd ffurf 3 un gorffennol kigleu o'r ferf clywed, sydd yn hynafol iawn ac yn cyfateb i'r Hen Wyddeleg -cúala o'r ferf ro-cluinethar, 'clywodd'.

Ceir mewn Cymraeg Canol ragor o ffurfiau lluosog i'r ansoddeiriau nac yn yr iaith gyfoes, e. e. cochion.

Roedd terfyniad lluosog enwol -awr yn gyffredin iawn mewn Cymraeg Canol, ond disodlwyd hyn gan y terfyniad -au.

Cystrawen

Fel mewn Cymraeg gyfoes ysgrifenedig, nid y drefn "berf-goddrych-gwrthrych" (Gwelodd y brenin gastell) a ddefnyddiwyd yn unig mewn Cymraeg Canol, ond y drefn afreolaidd a'r drefn gymysg hefyd (Y brenin a welodd gastell). Awgrymai'r drefn gymysg bwyslais ar y goddrych, a ddefnyddir yn aml mewn Cymraeg heddiw i bwysleisio rhywbeth. Y gwahaniaeth rhwng y ddwy oedd y daeth yr elfen negyddol ni/na o flaen y goddrych yn y drefn gymysg (felly, buasai Ni brenin a welodd gastell yn golygu 'Nid y brenin a welodd y castell') ond o flaen y ferf yn y drefn afreolaidd (felly, Brenin ni welodd gastell = Welodd y brenin ddim castell).

Llyfryddiaeth

Gramadegau

  • D. Simon Evans Gramadeg Cymraeg Canol (yn Saesneg: A Grammar of Middle Welsh)

Astudiaethau a llyfrau eraill

  • Henry Lewis, Datblygiad yr Iaith Gymraeg (Caerdydd)

Gweler hefyd