Ffosffad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
B newid linc
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 63: Llinell 63:
Mae bywyd yn dibynnu ar reolaeth lwyr o'r holl brosesau biofoleciwlar. Gellir ystyried hyn yn rhan o ddiffiniad bywyd. Digwydd ar sawl lefel ac mae ffosffad yn chwarae rhan yn nifer ohonynt. Sonnir uchod am ei rôl yng nghyfundrefn [[DNA]]/[[RNA]] (rheoli trawsgrifio a throsi [[Protein|proteinau]]) ond hefyd chwara rhan wrth reoli [[Ensym|ensymau]] yn uniongyrchol. Yn aml iawn fe gynnir a ddiffoddir actifedd ensym trwy ei gyfuno a a'i ryddhau oddiwrth ffosffad (megis switsh). Fel rheol trosglwyddir y ffosffad i'r protein o ATP trwy gyfrwng ensymau Cinas ac fe'i rhyddheir gan ensymau Ffosffatas. Mae cannoedd o wahanol fathau o'r rhain mewn celloedd (tua 500 yn y genom dynol) - ac mae eu deall yn destun ymchwil allweddol i ddeall clefydau megis [[cancr]] - heb son am sut y maent yn cynnal y corff iach.
Mae bywyd yn dibynnu ar reolaeth lwyr o'r holl brosesau biofoleciwlar. Gellir ystyried hyn yn rhan o ddiffiniad bywyd. Digwydd ar sawl lefel ac mae ffosffad yn chwarae rhan yn nifer ohonynt. Sonnir uchod am ei rôl yng nghyfundrefn [[DNA]]/[[RNA]] (rheoli trawsgrifio a throsi [[Protein|proteinau]]) ond hefyd chwara rhan wrth reoli [[Ensym|ensymau]] yn uniongyrchol. Yn aml iawn fe gynnir a ddiffoddir actifedd ensym trwy ei gyfuno a a'i ryddhau oddiwrth ffosffad (megis switsh). Fel rheol trosglwyddir y ffosffad i'r protein o ATP trwy gyfrwng ensymau Cinas ac fe'i rhyddheir gan ensymau Ffosffatas. Mae cannoedd o wahanol fathau o'r rhain mewn celloedd (tua 500 yn y genom dynol) - ac mae eu deall yn destun ymchwil allweddol i ddeall clefydau megis [[cancr]] - heb son am sut y maent yn cynnal y corff iach.


At lefel mwy macrosgobig, ffosffad (ynghyd a [[Calsiwm|chalsiwm]], Ca<sup>2+</sup>) yw brif gynhwysiad [[Asgwrn|esgyrn]] a [[Dant|dannedd]].
At lefel mwy macrosgobig, ffosffad (ynghyd a [[Calsiwm|chalsiwm]], Ca<sup>2+</sup>) yw brif gynhwysiad [[Asgwrn|esgyrn]] a [[Dant|dannedd]].


Daw ymddygiad gwenynig drwgenwog "[[Arsenig]]" (fel arfer ar ffurf arsenad) yn rhannol oherwydd ei berthynas (grŵp 15) a ffosfforws. Mae arsenad yn "edrych" ac yn ymddwyn yn debyg iawn i ffosffad i nifer o [[Ensym|ensymau]] hanfodol i fywyd. Ar yr un trywydd, yn 2010 ymddangosodd adroddiad safonol (yn ''Science'')<ref>{{eicon en}} https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pubmed/21127214</ref> yn honni darganfod [[Bacteria|bacteriwm]] oedd yn defnyddio arsenad yn lle ffosffad mewn [[DNA]]. Camgymeriad oedd hwn<ref>{{eicon en}} http://scienceblogs.com/webeasties/2010/12/05/guest-post-arsenate-based-dna/ (er enghraifft) Darllennwyd 17 Ebrill 2017. </ref>.
Daw ymddygiad gwenynig drwgenwog "[[Arsenig]]" (fel arfer ar ffurf arsenad) yn rhannol oherwydd ei berthynas (grŵp 15) a ffosfforws. Mae arsenad yn "edrych" ac yn ymddwyn yn debyg iawn i ffosffad i nifer o [[Ensym|ensymau]] hanfodol i fywyd. Ar yr un trywydd, yn 2010 ymddangosodd adroddiad safonol (yn ''Science'')<ref>{{eicon en}} https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pubmed/21127214</ref> yn honni darganfod [[Bacteria|bacteriwm]] oedd yn defnyddio arsenad yn lle ffosffad mewn [[DNA]]. Camgymeriad oedd hwn<ref>{{eicon en}} http://scienceblogs.com/webeasties/2010/12/05/guest-post-arsenate-based-dna/ (er enghraifft) Darllennwyd 17 Ebrill 2017. </ref>.





Fersiwn yn ôl 21:43, 20 Ebrill 2017

Ffosffad
Stereo skeletal formula of phosphate
Aromatic ball and stick model of phosphate Space-filling model of phosphate
Names
Enw Systematig IUPAC
Phosphate[1]
Dynodwyr
3D model (Jmol)
Cyfeirnodau Beilstein 3903772
ChEBI
ChemSpider
Cyfeirnodau Gmelin 1997
MeSH [www.nlm.nih.gov/cgi/show_data.php?acc={{{MeSH}}} {{{MeSH}}}]
PubChem
UNII
Priodweddau
Fformiwla cemegol PO3−4
Màs molar 94.9714 g mol−1
Oni nodir yn wahanol, nodir data ar gyfer defnyddiau yn eu cyflwr arferol (ar dymheredd o 25 °C (77 °F), 100 kPa)
Infobox references

Cemegyn ac ion anorganig yw ffosffad (PO43-).Halen asid ffosfforig wedi'i nodweddi gan atom o ffosfforws. Mewn cemeg organig gall ffurfio esterau a chyfansoddion eraill. Mae esterau (ac anhydradau asid) ffosffad yn bwysig iawn mewn biocemeg a gweithgaredd cemegol bywyd

Ffynonellau diwydiannol ffosfforws

O amaethyddiaeth y daw'r galw diwydiannol fwyaf am ffosffad. Yn ddiarwybod iddynt, ers cyfnod yr hen Eifftiaid bu ffermwyr yn rhoi tail neu mineralau yn ei gynnwys ar gnydau i'w hysgogi[2]. Ar ôl darganfyddiad bodolaeth, ac yna phwysigrwydd, ffosfforws aethpwyd ati i ddefnyddio wrin (troeth) ac esgyrn fel ffynhonnell. Yn 1802 darganfuwyd tomennydd enfawr o faw adar yn ne America gan Alexander von Humboldt (yn anturiaethwr gwyddonol o'r Almaen) ac fe aeth ati i astudio ei gwerth fel cwrtaith. Roedd brodorion y cyfandir eisioes yn gyfarwydd â'i briodoleddau ac mi ddaw'r enw amdano, Giwana (Guano) (cyfarwydd iawn yng Nghymru), o'r enw Quechua (wanu) am unrhyw faw anifail a ddefnyddid fel cwrtaith. Erbyn canol y ganrif roedd diwydiant allforio mawr wedi tyfu[3][4]. Erbyn diwedd yr 19 ganrif roedd mwyngloddio creigiau ffosffad wedi cymryd lle giwana fel prif ffynhonnell ffosfforws diwydiannol, ond erys galw sy'n cynyddu'n ddiweddar amdano o du amaethwyr "organig"[5].

Ers yr 1890au mwyngloddio creigiau ffosffad anorganig bu brif ffynhonnell yr elfen. Ar ffurf (amhur) ffosffad calsiwm (apatit) y mae'r rhan fwyaf ohono. Fe'i ffurfiwyd o waddodion morol dros filiynau o flynyddoedd cyn dod i'r wyneb drwy symudiadau tectonig y ddaear. Yn yr Unol Daleithiau cychwynnodd y diwydiant, ond mae bellach cyflenwadau sylweddol ohono yn Tsieina a Rwsia. Ond o bwys yn yr hinsawdd geo-wleidyddol bresennol yw bod tua hanner cyflenwad y byd i'w canfod mewn gwledydd arabaidd[6] , yn bennaf Moroco, lle mae dros 70% ar hyn o bryd. Nid yw'r broses o fwyngloddio yn garedig i'r amgylchedd am sawl reswm. Un yw presenoldeb metalau trwm gwenwynig (Cd, Pb, Ni, Cu, Cr ac U) yn y creigiau. Mae hanes gwlad-ynys fechan Nawrw (y drydedd lleiaf yn y byd, ar ôl y Fatican a Monaco) yn enghraifft o'r ddilema wleidyddol-fasnachol. Am rai degawdau ar ôl yr ail ryfel byd roedd gan y brodorion un o safonau byw ucha'r Môr Tawel, ac yn y 1960au hwyr a'r 1970au cynnar roedd gan ei phoblogaeth o ryw 10,000 yr incwm yn ôl y pen uchaf o unrhyw wlad yn yr holl fyd. Erbyn 2000 'roedd y mwyn wedi'i llwyr disbyddu. O 2001 i 2007 bu'r ynys yn ddibynnol ar gytundeb i gynnar carchar ar gyfer Llywodraeth Awstralia. Gyda 10% o'r boblogaeth yn dibynnu arno, daeth tlodi yn sgil ei gai yn 2008 ac fe'i ail hagorwyd yn garchar i ymgeiswyr lloches yn 2012[7].

Dadla rhai na fydd cyflenwadau cyfleus (sef rhâd) mwyn ffosffad yn para'n hir i'r dyfodol, gan ddylanwadi'n sylweddol ar amaethyddiaeth (ac, felly, prisiau bwyd). Yn 2011, dadleuodd Carpenter a Bennett[8] y byddai prinder byd eang ohono erbyn 2040. Bu cryn gyhoeddusrwydd i hyn yn y wasg gyda chymharu "brig ffosfforws"[9] gyda'r "brig olew"[10] - y gred lle yr ydym wedi pasio'r foment o gynhyrchu mwyaf y sylweddau. O hyn allan byddant yn brinnach. Yn sicr, er bod ffosfforws yn un o'r elfennau mwyaf cyffredin mewn creigiau (0.1%<ref(Saesneg) >Greenwood, N. N.; & Earnshaw, A. (1997). Chemistry of the Elements (2nd Edn.), Oxford:Butterworth-Heinemann. ISBN 0-7506-3365-4.</ref>) mae wedi’i gwasgaru'n denau. Mae ein harfer o amaeth diwydiannol presennol yn dibynnu ar crynodiadau uchel ohono.

Ffosfforws mewn pethau byw

Fframwaith hydrocsiapatit (calsiwm ffosffad) mewn asgwrn. (Normal ar y chwith, Treuliwyd ar y dde)

Mae'r elfen ffosfforws yn bresennol ym mhopeth byw at y ddaear ac nid oes modd cynnal bywyd hebddo. Mae'n chwarae rôl hollbwysig ym mhrosesau biocemeg rheoli ac egnio bywyd. Mae'n debyg iddo chwarae rhan holl bwysig wrth i fywyd ffurfio (abiogenesis) tua phedwar biliwn (mil miliwn) o flynyddoedd yn ôl. Datgelir hyn heddiw yn ei rôl greiddiol mewn asidau niwclëig (DNA ac RNA) a'r ffosffolipidau sy'n ffurfio pilen pob cell - ddwy gydran hanfodol i fywyd. Mae'n rhan hollbwysig a gweithredol o'r moleciwl ATP sy'n ganolog i gyfundrefn egni bywyd at y ddaear. Mae'n debygol fod adweithiau’r moleciwl hwn (sef ATP) a'u gwreiddiau yn y byd abiotig[11].

Yn ecosystemau dŵr croyw (hy. nid ecosystemau'r moroedd hallt) mae'n debyg mae ffynhonnell ffosfforws (fel ffosffad - gw. isod) yw'r brif factor (heblaw am ddŵr) sy'n terfynu’r biomas (sef pa faint o fywyd y medrid ei gynnal). Cyflwynwyd syniad "Ddeddf y lleiafswm" gan Carl Sprengel[12] (1828) a'i boblogeiddio gan Justus von Liebig. (Fe'i gelwir yn aml "Ddeddf Liebig" o'r herwydd.) I ddynoliaeth, mae hwn yn allweddol wrth ystyried pa faint o gynnyrch amaethyddol y medrid ei gynhyrchu ar unrhyw dir. Ffactor bwysig iawn wrth i boblogaeth y byd dal i gynyddu o'r 7.3 biliwn presennol i'r 9.7 biliwn y disgwylid[13] yn 2050. (Yn y moroedd, mae'n debyg mai cemegolion nitrogen sy'n chwarae'r un rôl terfynu.)

Disgwylir i'r galw blynyddol am wrtaith ffosfforws (ffosffad) amaethyddiaeth y byd fod yn 46,648,000 tunnell (fel P2O5) yn 2018[14] (16,242,000 tun ohono yn nwyrain Asia). Ceir ddefnydd eang o wrtaith "NPK". Cyfeiria'r llythrennau at y maethynnau nitrogen (N), ffosfforws (P) a photasiwm (K). Mae confensiwn i ddisgrifio cynnwys yr hyn a fasnachir (ee. 10-10-10 a 16-4-8). Dyma ganradd cynnwys y tair elfen. Yn ôl confensiwn, cyfrifir y ddau olaf fel P2O5 a K2O (er nad ydy'r cyfansoddion adweithiol iawn hyn yn y cymysgedd).

Oherwydd ei natur dra adweithiol, ar ffurf wedi'i glymu ag ocsigen (wedi'i ocsideiddio) y mae ffosfforws yn bodoli mewn natur bron yn ddieithriad. Gelwir hwn yn ffosffad (PO43-; yn ei ffurf wedi'i llwyr ïoneiddio). (Pan nad yw wedi ïoneiddio, ffurfia asid ffosfforig (H3PO4).) Mae patrwm ïoneiddio ffosffad, er yn syml, yn cyfrannu'n sylweddol i'r hyn y galwn yn fywyd. Enghraifft o hyn yw'r modd y mae yn cadw pH celloedd (yn arbennig y cytoplasm) yn gyson (byffer). Heb hwn ni fyddai modd i broteinau gweithredu fel ensymau. Fel arfer mae'r ffosffad yn bodoli mewn ffurf wedi'i glymu a moleciwl organig (hy. yn cynnwys carbon) trwy fond ester, er bod bondiau asid anhydrid yn nodweddi prosesau sy'n ymwneud ag egni (ee. ATP a 1,3 diffosffoglycerad yng nglycolysis).

Mae bywyd yn dibynnu ar reolaeth lwyr o'r holl brosesau biofoleciwlar. Gellir ystyried hyn yn rhan o ddiffiniad bywyd. Digwydd ar sawl lefel ac mae ffosffad yn chwarae rhan yn nifer ohonynt. Sonnir uchod am ei rôl yng nghyfundrefn DNA/RNA (rheoli trawsgrifio a throsi proteinau) ond hefyd chwara rhan wrth reoli ensymau yn uniongyrchol. Yn aml iawn fe gynnir a ddiffoddir actifedd ensym trwy ei gyfuno a a'i ryddhau oddiwrth ffosffad (megis switsh). Fel rheol trosglwyddir y ffosffad i'r protein o ATP trwy gyfrwng ensymau Cinas ac fe'i rhyddheir gan ensymau Ffosffatas. Mae cannoedd o wahanol fathau o'r rhain mewn celloedd (tua 500 yn y genom dynol) - ac mae eu deall yn destun ymchwil allweddol i ddeall clefydau megis cancr - heb son am sut y maent yn cynnal y corff iach.

At lefel mwy macrosgobig, ffosffad (ynghyd a chalsiwm, Ca2+) yw brif gynhwysiad esgyrn a dannedd.

Daw ymddygiad gwenynig drwgenwog "Arsenig" (fel arfer ar ffurf arsenad) yn rhannol oherwydd ei berthynas (grŵp 15) a ffosfforws. Mae arsenad yn "edrych" ac yn ymddwyn yn debyg iawn i ffosffad i nifer o ensymau hanfodol i fywyd. Ar yr un trywydd, yn 2010 ymddangosodd adroddiad safonol (yn Science)[15] yn honni darganfod bacteriwm oedd yn defnyddio arsenad yn lle ffosffad mewn DNA. Camgymeriad oedd hwn[16].


Cyfeiriadau

  1. "Phosphates – PubChem Public Chemical Database". The PubChem Project. USA: National Center of Biotechnology Information.
  2. (Saesneg) Heinrich W. Scherer. "Fertilizers" in Ullmann's Encyclopedia of Industrial Chemistry. 2000, Wiley-VCH, Weinheim. doi:10.1002/14356007.a10_323.pub3
  3. (Saesneg) http://www.peruthisweek.com/blogs-history-of-the-peruvian-guano-industry-103794 Darllennwyd 17 Ebrill 2017.
  4. (Saesneg) http://www.historytoday.com/john-peter-olinger/guano-age-peru (angen tanysgrifiad)
  5. (Saesneg) http://www.organicfarming.com.au/product/guano/ Darllennwyd 17 Ebrill 2017.
  6. (Saesneg) http://minerals.usgs.gov/minerals/pubs/commodity/phosphate_rock/ Darllennwyd 17 Ebrill 2017.
  7. (Saesneg) http://www.dailytelegraph.com.au/follow-fraser-not-howard-senate-told/news-story/5f9b57540d23b5f1f532cf1d4af61f9f "Asylum bill passes parliament". The Daily Telegraph. 16 Awst 2012. Darllennwyd 17 Ebrill 2017.
  8. (Saesneg) Carpenter S.R. & Bennett E.M. (2011). "Reconsideration of the planetary boundary for phosphorus". Environmental Research Letters. 6 (1): 1–12. Bibcode:2011ERL.....6a4009C. doi:10.1088/1748-9326/6/1/014009.
  9. (Saesneg) http://www.americanscientist.org/issues/pub/does-peak-phosphorus-loom
  10. (Saesneg) https://www.princeton.edu/hubbert/the-peak.html Darllennwyd 17 Ebrill 2017.
  11. (Saesneg) Keller, Markus A.; Turchyn, Alexandra V.; Ralser, Markus (25 Mawrth 2014). "Non‐enzymatic glycolysis and pentose phosphate pathway‐like reactions in a plausible Archean ocean". Molecular Systems Biology (Heidelberg, Germany: EMBO Press ar ran yr European Molecular Biology Organization) 10 (725). doi:10.1002/msb.20145228. ISSN 1744-4292. PMC 4023395. PMID 24771084. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4023395.
  12. (Almaeneg) Die Lehre vom Dünger oder Beschreibung aller bei der Landwirthschaft gebräuchlicher vegetablilischer, animalischer und mineralischer Düngermaterialien, nebst Erklärung ihrer Wirkungsart. Leipzig, 1839
  13. (Saesneg) http://www.un.org/en/development/desa/news/population/2015-report.html
  14. (Saesneg) http://www.fao.org/3/a-i4324e.pdf Darllennwyd 17 Ebrill 2017.
  15. (Saesneg) https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pubmed/21127214
  16. (Saesneg) http://scienceblogs.com/webeasties/2010/12/05/guest-post-arsenate-based-dna/ (er enghraifft) Darllennwyd 17 Ebrill 2017.