Edward I, brenin Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 32: Llinell 32:
*[[Elizabeth o Rhuddlan]] (1281–1316)
*[[Elizabeth o Rhuddlan]] (1281–1316)
*[[Edward II, brenin Lloegr|Edward II]] (1284–1327), brenin Lloegr 1307–1327
*[[Edward II, brenin Lloegr|Edward II]] (1284–1327), brenin Lloegr 1307–1327
*[[Tomos o Brotherton, 1af Iarll Norfolk]]
*[[Tomos o Brotherton, 1af Iarll Norfolk]] (1300–1338)
*[[Edmund o Woodstock, 1af Iarll Caint]]
*[[Edmund o Woodstock, 1af Iarll Caint]] (1301–1330)
*Eleanor (1306)
*Eleanor (1306–1311)


==Ffilm a llenyddiaeth==
==Ffilm a llenyddiaeth==

Fersiwn yn ôl 16:26, 20 Ebrill 2017

Brenin Edward I

Edward I (17 Mehefin 12397 Gorffennaf 1307), brenin Lloegr, oedd goresgynwr Cymru a'r Alban.

Llysenwau: "Edward Hirgoes", "Morthwyl yr Albanwyr".

Bywgraffiad

Bywyd cynnar

Ganwyd Edward, mab i Harri III ac Eleanor o Brovence yn 1239 yn Llundain; priododd ag Eleanor o Castile yn 1254. Wnaeth o arwain byddin yn erbyn Llywelyn ap Gruffudd yn 1263, ond heb lawer o lwyddiant. O 1268 i 1274 roedd i ffwrdd o Loegr, yn brwydro ar yr wythfed Croesgad, ac wedyn ymweld â'r Pab yn Yr Eidal a Ffrainc. Bu farw ei dad Harri III yn 1272, ac roedd Edward yn frenin Lloegr o hyn ymlaen.

Edward a Chymru

Roedd Edward yn gyfrifol am oresgyn Cymru ar ddau achlysur, yn ystod Rhyfel Cyntaf Annibynniaeth yn 1276-7 ac eto yn ystod Ail Ryfel Annibyniaeth yn 1282-3. Yn ystod yr ail oresgyniad, cafodd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, ei ladd ger Cilmeri. Cipiwyd ei frawd, Dafydd ap Gruffudd, y flwyddyn wedyn, yn dod â'r ail ryfel i ben. O hyn ymlaen roedd Edward yn gallu rheoli dros Gymru. Roedd rhaid, fodd bynnag, ddinistrio gwrthwynebiad nifer o uchelwyr, gan gynnwys Rhys ap Maredudd, a wnaeth ddechrau gwrthryfel yn y de yn 1287, a Madog ap Llywelyn, a wnaeth hawlio'r teitl Tywysog Cymru mewn gwrthryfel yn 1294-5.

Teulu

Gwragedd

Plant

Ffilm a llenyddiaeth

Cafodd ei bortreadu gan yr actor Patrick McGoohan yn y ffilm Braveheart.

Rhagflaenydd:
Harri III
Brenin Lloegr
20 Tachwedd 12727 Gorffennaf 1307
Olynydd:
Edward II
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.