Edward I, brenin Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 16: | Llinell 16: | ||
==Teulu== |
==Teulu== |
||
=== Gwragedd === |
=== Gwragedd === |
||
*[[Eleanor o Castile]] |
*[[Eleanor o Castile]] (1241–90), priodas 1254 |
||
*[[Marged o Ffrainc]] |
*[[Marged o Ffrainc]] (tua 1279 – 1318), priodas 1299 |
||
=== Plant === |
=== Plant === |
Fersiwn yn ôl 15:53, 20 Ebrill 2017
Edward I (17 Mehefin 1239 – 7 Gorffennaf 1307), brenin Lloegr, oedd goresgynwr Cymru a'r Alban.
Llysenwau: "Edward Hirgoes", "Morthwyl yr Albanwyr".
Bywgraffiad
Bywyd cynnar
Ganwyd Edward, mab i Harri III ac Eleanor o Brovence yn 1239 yn Llundain; priododd ag Eleanor o Castile yn 1254. Wnaeth o arwain byddin yn erbyn Llywelyn ap Gruffudd yn 1263, ond heb lawer o lwyddiant. O 1268 i 1274 roedd i ffwrdd o Loegr, yn brwydro ar yr wythfed Croesgad, ac wedyn ymweld â'r Pab yn Yr Eidal a Ffrainc. Bu farw ei dad Harri III yn 1272, ac roedd Edward yn frenin Lloegr o hyn ymlaen.
Edward a Chymru
Roedd Edward yn gyfrifol am oresgyn Cymru ar ddau achlysur, yn ystod Rhyfel Cyntaf Annibynniaeth yn 1276-7 ac eto yn ystod Ail Ryfel Annibyniaeth yn 1282-3. Yn ystod yr ail oresgyniad, cafodd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, ei ladd ger Cilmeri. Cipiwyd ei frawd, Dafydd ap Gruffudd, y flwyddyn wedyn, yn dod â'r ail ryfel i ben. O hyn ymlaen roedd Edward yn gallu rheoli dros Gymru. Roedd rhaid, fodd bynnag, ddinistrio gwrthwynebiad nifer o uchelwyr, gan gynnwys Rhys ap Maredudd, a wnaeth ddechrau gwrthryfel yn y de yn 1287, a Madog ap Llywelyn, a wnaeth hawlio'r teitl Tywysog Cymru mewn gwrthryfel yn 1294-5.
Teulu
Gwragedd
- Eleanor o Castile (1241–90), priodas 1254
- Marged o Ffrainc (tua 1279 – 1318), priodas 1299
Plant
- Catrin (m. 1264)
- Eleanor (1264–1297)
- Joan (1265)
- Siôn (1266–1271)
- Harri (1268–1274)
- Joan o Acre (1271–1307)
- Alphonso (1273–1284)
- Marged (1275–?1333)
- Berengaria (1276–1278)
- Mari (1279–1332)
- Elizabeth o Rhuddlan (1281–1316)
- Edward II (1284–1327), brenin Lloegr 1307–1327
- Tomos o Brotherton, 1af Iarll Norfolk
- Edmund o Woodstock, 1af Iarll Caint
- Eleanor (1306)
Ffilm a llenyddiaeth
Cafodd ei bortreadu gan yr actor Patrick McGoohan yn y ffilm Braveheart.
Rhagflaenydd: Harri III |
Brenin Lloegr 20 Tachwedd 1272 – 7 Gorffennaf 1307 |
Olynydd: Edward II |
|