Llywarch Hen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 12fed ganrif12g, 9fed ganrif9g, 6ed ganrif6g using AWB
Just oherwydd Mae genyn rhai pobl run cyfenw dydi honno ddim yn golygu bid teulu ydom nhw
Tagiau: Emoji Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 1: Llinell 1:
Aelod o deulu brenhinol [[Rheged]] yn yr [[Hen Ogledd]] a ddaeth yn wrthrych y gadwyn o [[englyn]]ion a elwyd gan [[Ifor Williams]] yn ''[[Canu Llywarch Hen]]'' oedd '''Llywarch Hen''' (fl. diwedd y [[6g]]). Mae'n bosibl ei fod wedi olynu [[Urien Rheged]] fel brenin Rheged (bu farw [[Owain fab Urien]] cyn ei dad), ond nid oes sicrwydd am hynny.
Aelod o deulu brenhinol [[Rheged]] yn yr [[Hen Ogledd]] a ddaeth yn wrthrych y gadwyn o [[englyn]]ion a elwyd gan [[Ifor Williams]] yn ''[[Canu Llywarch Hen]]'' oedd '''Llywarch Hen''' (fl. diwedd y [[6g]]). Mae'n bosibl ei fod wedi olynu [[Urien Rheged]] fel brenin Rheged (bu farw [[Owain fab Urien]] cyn ei dad), ond nid oes sicrwydd am hynny. Rydw in meddwl just oherwydd Mae pobl yn Cael yr un cyfenw dydi honno ddim yn gwneud I nhw fod yn teulu fel llywarch Gwyn Arthur. Llewelyn paid a credu ynddi nhw 🗡🗡


==Hanes==
==Hanes==

Fersiwn yn ôl 07:23, 19 Ebrill 2017

Aelod o deulu brenhinol Rheged yn yr Hen Ogledd a ddaeth yn wrthrych y gadwyn o englynion a elwyd gan Ifor Williams yn Canu Llywarch Hen oedd Llywarch Hen (fl. diwedd y 6g). Mae'n bosibl ei fod wedi olynu Urien Rheged fel brenin Rheged (bu farw Owain fab Urien cyn ei dad), ond nid oes sicrwydd am hynny. Rydw in meddwl just oherwydd Mae pobl yn Cael yr un cyfenw dydi honno ddim yn gwneud I nhw fod yn teulu fel llywarch Gwyn Arthur. Llewelyn paid a credu ynddi nhw 🗡🗡

Hanes

Mae dyddiadau geni a marw Llywarch Hen yn anhysbys. Roedd yn gefnder i Urien Rheged, brenin Rheged, ac yn un o ddisgynyddion Coel Hen. Ychydig iawn a wyddys amdano ar wahân i'r hyn a geir yn nhraddodiadau cynnar Cymru. Yn yr achau traddodiadol a elwir Bonedd Gwŷr y Gogledd, rhoddir llinach Llywarch Hen fel a ganlyn:

Llywarch Hen mab Elidir Lydanwyn mab Meirchion mab Gorust Ledlwm mab Cenau mab Coel.[1]

Ceir enw Llywarch yn ach y brenin Gruffudd ap Cynan ar ddechrau Hanes Gruffudd ap Cynan, a luniwyd yn ail hanner y 12g, sy'n dangos fod y brenin Rhodri Mawr yn ddisgynydd uniongyrchol iddo a Choel Hen. Enwir Gwawr ferch Brychan yn fam Llywarch ac Urien yn y traethawd canoloesol De Situ Brecheniauc.

Traddodiad

Yn ddiweddarach trawsleolwyd y traddodiadau am Lywarch a'i feibion i Bowys a lluniwyd cyfres o englynion lled-hanesyddol, lled-chwedlonol, am ei fywyd. Fe'i portreadir ynddynt fel hen ŵr unig sy'n galaru colli ei 24 mab. Am ei fod yn siarad yn y person cyntaf mewn rhai o'r englynion hyn daethpwyd i ystyried mai ef a'u canodd, ond gwyddys erbyn heddiw eu bod yn gerddi amdano a fu'n rhan o gylch o chwedlau ehangach, efallai. Credir i'r cerddi gael eu cyfansoddi tua chanol y 9g gan fardd neu feirdd o Bowys. Mae'r broses hon o drawsleoli arwyr yr Hen Ogledd i Gymru i'w gweld hefyd yn achos cymeriadau eraill, e.e. Taliesin, Gwyddno Garanhir, Myrddin, ac Urien Rheged hefyd.

Cyfeirir at Lywarch Hen sawl gwaith yn Nhrioedd Ynys Prydain. Gyda Manawydan fab Llyr a Gwgon Gwron fab Peredur, mae'n un o 'Dri Lleddf Unben Ynys Prydain'. Mae'n un o 'Dri Thrwyddedog Llys Arthur, a Thri Anfoddog', gyda Llemenig a Heledd. Dywedir hefyd ei fod yn un o 'Dri Engiriol Ynys Prydain' (ystyr engiriol yw "blin, ffyrnig" efallai) ac yn un o'r 'Tri Anfoddog', gyda Heledd a Llemenig eto.[2]

Ceir sawl lle yng Nghymru a gysylltir â Llywarch Hen a'i feibion. Lleolir beddau rhai o'i feibion ym Mhowys, yn ôl englynion Canu Llywarch Hen. Cysylltir Llywarch ei hun â Llanfor ym Meirionnydd; gelwid cylch cerrig yno, sydd wedi diflannu erbyn hyn, yn Babell Llywarch Hen ac roedd mwnt o'r enw 'Castell Llywarch' yno hefyd. Yn y 12fed ganrif roedd clawdd ger Llyn Syfaddon yn adnabyddus fel 'Clawdd Llywarch Hen'; cofnodir yr enw yn Llyfr Llandaf ac fe allai ddyddio o gyfnod cynnar.[3]

Llyfryddiaeth

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991), Atodiad II.
  2. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein, Trioedd 8, 65, 76, 77.
  3. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein.