Rhyddfeddyliaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Agwedd o feddwl sy'n ymlynu wrth reswm yn hytrach na dogma ac awdurdod yw '''rhyddfeddyliaeth'''<ref>{{dyf GPC |gair=rhyddfed...'
 
B Symudodd Adam y dudalen Rhyddfeddwl i Rhyddfeddyliaeth
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:57, 17 Ebrill 2017

Agwedd o feddwl sy'n ymlynu wrth reswm yn hytrach na dogma ac awdurdod yw rhyddfeddyliaeth[1] neu ryddfeddwl. Defnyddir y gair yn enwedig mewn materion ffydd a diwinyddiaeth, ac felly mae rhyddfeddyliaeth yn gysylltiedig â ffurfiau ar sgeptigiaeth grefyddol megis anffyddiaeth, agnostigiaeth, anghrefydd, dyneiddiaeth, anghydffurfiaeth, a rhesymoliaeth. Rhoddir yr enw Rhyddfeddyliaeth â Rh fawr ar fudiad o athronwyr a llenorion adeg yr Oleuedigaeth oedd yn ddylanwadol yn llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a bywyd deallusol y gwledydd Cristnogol yng Ngorllewin Ewrop a Gogledd America yn y 18g.

Eginodd syniadau'r mudiad a elwir bellach yn Rhyddfeddyliaeth ym Mhrydain yn niwedd yr 17g. Dechreuwyd defnyddio'r gair yn sgil cyhoeddi'r traethawd A Discourse of Free-thinking (1713) gan y Sais Anthony Collins. Duwgredwr ac nid anffyddiwr oedd Collins a wrthodai crefydd ddatguddiedig gan arddel deistiaeth. Fel rheol, credai'r deistiaid mewn creawdwr y bydysawd ond nid bod goruwchnaturiol sy'n ymyrryd mewn materion bydol. Mabwysiadwyd yr enw rhyddfeddylwyr yn derm mantell gan ddeistiaid, anffyddwyr ac amheuwyr eraill i amlygu eu rhyddhâd oddi wrth ragfarnau crefyddol, ac oddi wrth bob cyfundrefn grefyddol. Ym 1718 dechreuwyd cyhoeddi'r papur wythnosol, The Freethinker. Yr oedd Collins, Toland, Tindal, a Morgan yn cael eu hystyried yn gampwyr y mudiad, ond hwyrach mai David Hume a'r Is-iarll Bolingbroke oedd y ddau enwocaf o'i haelodau. Yn Ffrainc, yr oedd Voltaire, D'Alembert, Diderot, a Helvetius, yn arweinyddion y dosbarth a wrthwynebent Gristnogaeth yn ei holl ffurfiau. Amlygodd yr un ysbryd ei hun yn yr Almaen yn oes Ffredrig Fawr, a theimlwyd ei ddylanwad i raddau helaeth iawn trwy gyfrwng y wasg, y prifysgolion, ac hyd yn oed y pulpud yn y wlad honno.

Ennynai ymateb amddiffynnol gan gredinwyr o bob math. Cyhoeddwyd llu o atebion i draethodau Collins, Tindal a'r lleill, a rhoddai sawl clerigwr, er enghraifft yr Esgob Hoadly, ei bin ar bapur i fynnu'r ffydd a'i hawdurdod fel ei gilydd. Y mae Colton, yn ei Lacon, yn sylwi ei fod yn ymddangos nad ydyw Rhyddfeddyliaeth yn ei oes yn ddim amgen nag enw arall ar ryddid i beidio gosod y meddwl ar waith. Er gwaetha'r adlach, llwyddodd syniadau'r rhyddfeddylwyr i groesi'r Iwerydd yng ngeiriau Tom Paine ac eraill. Deistiaeth Jefferson ac ambell un arall o'r Sefydlwyr oedd wrth wraidd ymwahanu'r eglwys oddi ar y wladwriaeth yng Nghyfansoddiad yr Unol Daleithiau. Ceisiwyd creu llywodraeth seciwlar yn Ffrainc hefyd yn sgil y Chwyldro Ffrengig, ond atgyfnerthai'r gwrthwynebiad gan geidwadwyr megis Burke o ganlyniad i drais yr ymgyrch honno yn erbyn yr Eglwys Gatholig. Cynhelid y traddodiad rhyddfeddyliol yn y 19g gan athronwyr megis Mill, gwyddonwyr megis Darwin a Huxley, ac areithwyr megis Robert Ingersoll.

Cyfeiriadau

  1.  rhyddfeddyliaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 17 Ebrill 2017.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.