Griffith Jones, Llanddowror: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
newid cat
Llinell 7: Llinell 7:
Mae'n werth nodi nad oedd wedi bod yng [[Cymru|Nghymru]] unrhyw fath o gyfundrefn addysg yn Gymraeg cyn hynny ers [[Diddymu'r mynachlogydd|diddymiad y mynachlogydd]].
Mae'n werth nodi nad oedd wedi bod yng [[Cymru|Nghymru]] unrhyw fath o gyfundrefn addysg yn Gymraeg cyn hynny ers [[Diddymu'r mynachlogydd|diddymiad y mynachlogydd]].


{{eginyn}}
{{eginyn Cymry}}

[[Category:Cymry enwog|Jones, Griffith]]
[[Category:Pobl o Sir Gaerfyrddin|Jones, Griffith]]
[[Category:Cristnogaeth yng Nghymru|Jones, Griffith]]
[[Category:Cristnogaeth yng Nghymru|Jones, Griffith]]
[[Category:Genedigaethau 1683|Jones, Griffith]]
[[Category:Genedigaethau 1683|Jones, Griffith]]

Fersiwn yn ôl 20:14, 6 Rhagfyr 2007

Sylfaenydd yr Ysgolion Cylchynol Cymreig oedd Griffith Jones 1683 - 1761, a adnabyddir gan amlaf fel Griffith Jones, Llanddowror.

Yn dod yn wreiddiol o Ben-Boyr, Sir Gaerfyrddin, cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin ac wedyn ei ordeinio yn 1708. Yn 1716 cafodd rheithoriaeth ym mhentref Llanddowror, hefyd yn Sir Gaerfyrdddin. Roedd yn aelod brwdfrydig o'r Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol.

Yn 1731 dechreuodd y cyntaf o'i ysgolion cylchynol enwog. Roedd yr ysgolion mewn un man am ryw dri mis, fel arfer yn y gaeaf pan oedd amser gan y ffermwyr i fynychu'r ysgol. Roedd yr ysgol yn dysgu plant ac oedolion i ddarllen y Beibl Cymraeg ac i adrodd catecism Eglwys Loegr. Erbyn iddo farw roedd tair mil o ysgolion wedi cael eu sefydlu mewn 1600 o leoedd a Chymru'n mwynhau'r lefel llythrenedd gorau yn y byd.

Mae'n werth nodi nad oedd wedi bod yng Nghymru unrhyw fath o gyfundrefn addysg yn Gymraeg cyn hynny ers diddymiad y mynachlogydd.

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.