Gwilym Prys-Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
http://www.legacy.com/obituaries/thetimes-uk/obituary.aspx?page=lifestory&pid=184779317
Llinell 1: Llinell 1:
Sosialydd Cymreig oedd yr Arglwydd '''Gwilym Prys-Davies''' ([[8 Rhagfyr]] [[1923]] – [[23 Mawrth]] [[2017]]). Bu'n ymgeisydd y [[Y Blaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]] yn [[Is-etholiad Caerfyrddin, 1966]], ond nid oedd yn llwyddiannus.
Sosialydd Cymreig oedd yr Arglwydd '''Gwilym Prys-Davies''' ([[8 Rhagfyr]] [[1923]] – [[28 Mawrth]] [[2017]]). Bu'n ymgeisydd y [[Y Blaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]] yn [[Is-etholiad Caerfyrddin, 1966]], ond nid oedd yn llwyddiannus.


==Bywyd cynnar==
==Bywyd cynnar==

Fersiwn yn ôl 13:13, 2 Ebrill 2017

Sosialydd Cymreig oedd yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies (8 Rhagfyr 192328 Mawrth 2017). Bu'n ymgeisydd y Blaid Lafur yn Is-etholiad Caerfyrddin, 1966, ond nid oedd yn llwyddiannus.

Bywyd cynnar

Ganwyd Gwilym Prys-Davies yn Llanegryn, Meirionnydd. Gwasanaethodd yn y llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi hynny astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth ac aeth i weithio fel cyfreithiwr ym Mhontypridd yn 1956.

Gyrfa

Daeth yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi ar y 9fed o Chwefror, 1983 a gwasanaethodd fel Arglwydd hyd nes iddo ymddeol fel Arglwydd ar 23 Mai 2015.

Bu'n llefaru ar faterion iechyd a Gogledd Iwerddon ar ran yr wrthblaid yn Nhy'r Arglwyddi yn ystod yr 1980au a 1990au. Gwasanaethodd fel llefarydd yr Wrthblaid yn Nhy'r Arglwyddi ar faterion Cymreig rhwng 1987 a 1997.

Bywyd personol

Cyfarfu ei wraig Llinos yn y brifysgol a bu'r ddau yn briod am dros 50 mlynedd hyd ei marwolaeth yn 2010. Bu farw ar 23 Mawrth 2017 yn 93 blwydd oed.[1]

Llyfryddiaeth

  • Cynhaeaf Hanner Canrif Gwleidyddol Gymraeg 1945 - 2005

Cyfeiriadau

  1. Yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies wedi marw yn 93 oed , BBC Cymru Fyw, 29 Mawrth 2017.