37,236
golygiad
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) (ehangu) |
||
Yn raddol, concrodd y Rhufeiniaid drigolion eraill yr Eidal, megis yr [[Etrwsciaid]]. Yn ail hanner y [[3edd ganrif CC]], dechreuodd y cyntaf o dri rhyfel yn erbyn dinas [[Carthago]] yng ngogledd Affrica. Yn ystod yr ail o'r rhyfeloedd hyn, ymosododd [[Hannibal]] ar yr Eidal a gorchfygu'r Rhufeiniaid mewn nifer o frwydrau gyda cholledion enbyd, ond yn y diwedd gorchfygwyd yntau gan [[Scipio Africanus]]. Wedi gorchfygu [[Macedonia]] yn yr [[2il ganrif CC]], Rhufain oedd y grym mwyaf o gwmpas [[Môr y Canoldir]].
Erbyn canol yr ail ganrif CC, roedd pwnc y tir yn bwnc llosg yn Rhufain. Disgwylid i ddinasyddion oedd yn gwasanaethu yn y fyddin aros yn y fyddin nes gorffen ymgyrch arbennig, weithiau am flynyddoedd. Oherwydd hyn, ni allent weithio ar eu ffermydd, ac yn aml aent yn fethdalwyr. Prynwyd llawer o'r tir gan y cyfoethogion, i greu ''[[latifundia]]'', ffermydd mawr a weithid gan gaethweision. Pan ddychwelai'r milwyr i Rufain, nid oedd ganddynt fywoliaeth.
Datblygodd terfysgoedd mewnol yn ystod [[y ganrif 1af CC]], gydag ymryson rhwng [[Gaius Marius]] a [[Lucius Cornelius Sulla]], yna gytundeb i rannu grym rhwng [[Iŵl Cesar]], [[Gnaeus Pompeius Magnus]] a [[Marcus Licinius Crassus]]. Wedi i Cesar goncro Gâl, bu [[rhyfel cartref]], gyda Cesar yn gorchfygu Pompeius i gipio grym. Yn [[44 CC]] llofruddiwyd Cesar gan aelodau o'r [[Senedd Rhufain|senedd]] oedd yn credu ei fod yn mynd yn rhy bwerus. Dilynwyd hyn gan ryfel cartref arall rhwng y gweriniaethwyr, dan arweiniad [[Gaius Cassius Longinus]] a [[Marcus Junius Brutus]], a chefnogwyr Cesar dan arweiniad [[Marcus Antonius]] a gor-nai Cesar, [[Augustus|Octavianus]] (a newidiodd ei enw i "Augustus" yn ddiweddarach). Plaid Cesar fu'n fuddugol, ond yna datblygodd rhyfel rhwng Marcus Antonius ac Octavianus. Wedi buddugoliaeth dros Antonius ym [[Brwydr Actium|Mrwydr Actium]], daeth ▼
Yn [[133 CC]] etholwyd [[Tiberius Sempronius Gracchus]] yn dribwn y bobl. Cynigiodd fesurau dan yr enw ''Lex Sempronia agraria''. Dan y rhain, byddai'r wladwriaeth yn cymeryd meddiant o dir oedd wedi ei ennill yn flaenorol mewn rhyfel oddi wrth unrhyw un oedd yn dal mwy na 500 jugera (tua 310 acer, 1.3 km²). Gellid wedyn ei ddosbarthu i'r cyn-filwyr. Golygai hyn y byddai y cyfoethogion yn colli tiroedd helaeth, ac yn [[132 CC]] lladdwyd Tiberius mewn terfysg yn y ddinas. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, cyflwynodd ei frawd, [[Gaius Gracchus]], fesurau mwy radicalaidd fyth, ond lladdwyd yntau.
▲Datblygodd terfysgoedd mewnol eto yn ystod [[y ganrif 1af CC]], gydag ymryson rhwng [[Gaius Marius]] a [[Lucius Cornelius Sulla]], yna gytundeb i rannu grym rhwng [[Iŵl Cesar]], [[Gnaeus Pompeius Magnus]] a [[Marcus Licinius Crassus]]. Wedi i Cesar goncro Gâl, bu [[rhyfel cartref]], gyda Cesar yn gorchfygu Pompeius i gipio grym. Yn [[44 CC]] llofruddiwyd Cesar gan aelodau o'r [[Senedd Rhufain|senedd]] oedd yn credu ei fod yn mynd yn rhy bwerus. Dilynwyd hyn gan ryfel cartref arall rhwng y gweriniaethwyr, dan arweiniad [[Gaius Cassius Longinus]] a [[Marcus Junius Brutus]], a chefnogwyr Cesar dan arweiniad [[Marcus Antonius]] a gor-nai Cesar, [[Augustus|Octavianus]] (a newidiodd ei enw i "Augustus" yn ddiweddarach). Plaid Cesar fu'n fuddugol, ond yna datblygodd rhyfel rhwng Marcus Antonius ac Octavianus. Wedi buddugoliaeth dros Antonius ym [[Brwydr Actium|Mrwydr Actium]], daeth
Octavianus/Augustus yn rheolwr Rhufain.
|
golygiad