Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Castell Degannwy"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 21 beit ,  14 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(trwsio dolen)
BNo edit summary
Safai'r amddiffynfa gynnar ar yr uchaf o'r ddau graig ar gopa'r bryn, a chodwyd y castell canoloesol ar yr un safle. Ni wyddys a fu amddiffynfa Gymreig yno ar ôl cyfnod Maelgwn, ond cofnodir i'r iairll [[Normaniaid|Normanaidd]] [[Robert o Ruddlan]] godi castell [[mwnt a beili]] yno yn [[1088]] pan ddaeth y Normaniaid yn agos iawn at oresgyn Gwynedd. Yn [[1213]] cipiwyd y castell gan [[Llywelyn Fawr]] a chodwyd castell o gerrig ganddo. Mae cerflun bychan a ddarganfuwyd yno yn bortreadu'r tywysog ei hun efallai, ac os felly dyna'r unig ddelwedd ohono i oroesi.
 
Ar ôl marwolaeth Llywelyn Fawr manteisiodd y brenin [[Harri III o Loegr]] ar ymraniadau mewnol Gwynedd ac ymosododd arni. Dymchwelwyd castell Llywelyn gan ei etifedd ac olynydd [[Dafydd ap Llywelyn]] rhag ofn i'r Saeson ei gipio. Ond cododd Henri gastell newydd yno, cyfrachcryfach o gryn dipyn, a gostiodd lawer o farciau iddo. Yn [[1263]] rhoddodd [[Llywelyn ap Gruffudd]] y castell dan warchae. Llwygwyd y garsiwn i ildio a dinistriwyd y castell bron yn llwyr. Dim ond rhan o rai o'r muriau isaf sydd i'w gweld yno heddiw.
 
==Llyfryddiaeth==
 
{{Cestyll Tywysogion Gwynedd}}
{{Bryngaerau Cymru}}
 
[[Categori:Cestyll Cymru|Degannwy]]

Llywio