Ecwiti: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
cod arferol wici
B Symudodd Llywelyn2000 y dudalen Ecwitïau i Ecwiti
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:23, 29 Mawrth 2017

Y corff o gyfraith a ddatblygwyd ac a weinyddwyd gan Lys y Siawnsri i atodi'r darpariaethau a'r rhwymedïau sydd ar gael yn y gyfraith gyffredin yw ecwitïau. Mae ecwiti (ynghyd â chyfraith gyffredin a chyfraith statud) yn un o brif ffynonellau cyfraith Cymru a Lloegr.

Tan ddiwedd y 19g roedd ecwiti a chyfraith gyffredin yn systemau cyfraith gwahanol a chaent eu gweinyddu gan Lysoedd gwahanol. Ymdoddodd Deddfau'r Farnweiniaeth 1873-75 y system Llysoedd gan roi mynediad at gyfraith gyffredin ac ecwiti fel ei gilydd ar draws y system Llysoedd. Fodd bynnag, mae'r ddwy gangen o'r gyfraith yn parhau i gadw eu hunaniaeth wahanol eu hun, a lle bo egwyddorion yn gwrthdaro, dywedir mai ecwiti sydd â'r llaw uchaf.[1]

Cyfeiriadau