Awr frys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
iaith; ehangu |
B →Cyfeiriadau: clean up using AWB |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
==Cyfeiriadau== |
==Cyfeiriadau== |
||
{{cyfeiriadau}} |
{{cyfeiriadau}} |
||
[[Categori:Cludiant ffordd]] |
[[Categori:Cludiant ffordd]] |
Fersiwn yn ôl 01:19, 28 Mawrth 2017
Yr awr frys yw'r cyfnod hwnnw o'r dydd sydd â thraffig prysur ac felly ceir prysurdeb a tagfeydd ar y ffyrdd a chludiant cyhoeddus yn orlawn o bobl; fel arfer y ddau gyfnod yw pan mae pobl yn teithio i'r gwaith, siopau neu ysgol neu'n ôl adref.
Ni chyfyngir y cyfnod hwn i awr yn unig, eithr defnyddir y term yn fwy cyffredinol i olygu "cyfnod o amser". Yn arferol mae'r cyfnod hwn rhwng 6–10 am (06:00–10:00) a 3–7 pm (15:00–19:00). Mewn rhai llefydd ceir awr frys hefyd yn ystod yr "awr ginio" - rhwng hanner dydd a 2 pm (14:00).
Er mwyn ateb gofynion teithwyr, yn aml darperir rhagor o gerbydau megis trenau neu fysiau. Ceisir hefyd leihau'r traffic drwy annog teithwyr i gymryd dull amgen o deithio i'r gwaith e.e. rhannu car, seiclo neu stagro'r amser cychwyn a gorffen fel y gwneir mewn llawer o ysgolion.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Staggered Hours Schemes International Labour Office, Geneva