Y Bala: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
PipepBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Modifying: no:Bala (Wales)
Wa Bala
Llinell 9: Llinell 9:


Rhoddir yr enw ''[[bala]]'' ar lefydd sy'n agos i [[afon]] yn llifo o [[llyn|lyn]].
Rhoddir yr enw ''[[bala]]'' ar lefydd sy'n agos i [[afon]] yn llifo o [[llyn|lyn]].

Cynhelir gwyl gerddoriaeth boblogaidd, "Wa Bala" ar gyrion y dref ym Mis Medi, fel arfer dros gyfnod o ddwy noson.


==Hanes==
==Hanes==

Fersiwn yn ôl 23:41, 24 Tachwedd 2007

Y Bala
Gwynedd

Mae'r Bala yn dref fach yng Ngwynedd (cyn ad-drefnu llywodraeth leol yn yr hen Sir Feirionydd). Does dim ond un stryd fawr yn y dref. Mae Llyn Tegid gerllaw. Mae'r dref ar yr A494, rhwng Dolgellau (18 milltir i'r de-orllewin) a Llangollen (22 milltir i'r dwyrain).

Mae Afon Tryweryn yn llifo heibio i'r dref i'r dwyrain ac yn ymuno ag Afon Dyfrdwy sy'n rhedeg trwy Lyn Tegid i ddod allan ar ochr ddeheuol y Bala.

Rhoddir yr enw bala ar lefydd sy'n agos i afon yn llifo o lyn.

Cynhelir gwyl gerddoriaeth boblogaidd, "Wa Bala" ar gyrion y dref ym Mis Medi, fel arfer dros gyfnod o ddwy noson.

Hanes

Ar un adeg roedd y Bala yn ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân ond dirwynodd i ben yn y 19eg ganrif. Yn y sgwâr yng nghanol y dref saif cerflun er cof am Tom Ellis (1859-1899), AS Meirionnydd ar ddiwedd y 19eg ganrif, a aned yng Nghefnddwysarn nepell o'r Bala. Yno hefyd mae plac yn coffhau y Parch. Thomas Charles o'r Bala, Methodist blaenllaw ac un o selogion y Gymdeithas Feiblau a symbylwyd gan daith Mary Jones yn droednoeth i'r Bala yr holl ffordd o Llanfihangel-y-Pennant yn 1800. Ym mhen gogleddol y dref gwelir y Green gyda cherrig yr Orsedd o Eisteddfod Genedlaethol 1967. Ger llaw y mae Tomen y Bala, sy'n motte castell Normanaidd efallai. O'r Bala daeth nifer o'r ymfudwyr a aethant i'r Wladfa ym Mhatagonia yn 1865.

Enwogion

Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala ym 1967 a 1997. Am wybodaeth bellach gweler:

Gweler hefyd Eisteddfod y Bala 1738.

Gefeilldref

Mae pentref Bala yn nhalaith Ontario, Canada, yn efeilldref swyddogol i'r Bala.