Tacitus (ymerawdwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: gl:Tácito, Emperador
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: sw:Kaisari Tacitus
Llinell 45: Llinell 45:
[[sr:Тацит (цар)]]
[[sr:Тацит (цар)]]
[[sv:Marcus Claudius Tacitus]]
[[sv:Marcus Claudius Tacitus]]
[[sw:Kaisari Tacitus]]
[[tr:Marcus Claudius Tacitus]]
[[tr:Marcus Claudius Tacitus]]
[[uk:Марк Клавдій Тацит]]
[[uk:Марк Клавдій Тацит]]

Fersiwn yn ôl 20:45, 23 Tachwedd 2007

Tacitus

Marcus Claudius Tacitus (c.200 - Mehefin 276), oedd ymerawdwr Rhufain rhwng 275 a 276. Er iddo ef ei hun geisio awgrymu'n wahanol, nid oedd ganddo gysylltiad teuluol a'r hanesydd Tacitus.

Ganed Tacitus i deulu distadl yn un o'r taleithiau ger Afon Donaw; Noricum, Pannonia neu Raetia). Ni wyddir llawer am ei yrfa, ond bu'n gonswl yn 273.

Wedi i'r ymerawdwr Aurelian gael ei lofruddio, bu cyfnod o tua 6 mis heb ymerawdwr. Yn ystod y cyfnod hwn bu'r Senedd a'r llengoedd yn trafod pwy fyddai olynydd Aurelian, gan nad oedd ef ei hun wedi penodi olynydd. Yn y diwedd dewiswyd Tacitus. Yr oedd tua 75 oed pan gyhoeddwyd ef yn ymerawdwr.

Pan ddaeth yn ymerawdwr penododd Tacitus ei frawd Florianus yn bennaeth Gard y Praetoriwm. Yn fuan wedyn ail-ddechreuodd y rhyfeloedd ar ffiniau'r ymerodraeth pan groesodd y llwythi Almaenaidd dros Afon Rhein. Yr un pryd symudodd y Gothiaid i Asia Leiaf, gan haeru eu bod wedi eu galw yno gan Aurelian i ymlass yn erbyn y Persiaid. Aeth Tacitus i ddelio a'r Gothiaid tra'r aeth ei frawd Florianus i ymladd ar Afon Rhein. Bu'r ddau'n llwyddiannus, a chafodd Tacitus fuddugoliaeth dros yr Alaniaid gerllaw Palus Maeotis.

Ychydig wedyn, ar ôl bod yn ymerawdwr am 6 mis, bu farw Tacitus yn annisgwl yn Tyana (Capadocia). Mae dwy stori am ei farwolaeth. Yn ôl Eutropius ac Aurelius Victor bu farw o dwymyn, tra dywed Zosimus iddo gael ei lofruddio. Dilynwyd ef fel ymerawdwr gan ei frawd Florianus.

O'i flaen :
Aurelian
Ymerodron Rhufain
Tacitus
Olynydd :
Florianus