Bangor-is-y-coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi symud Bangor-is-y-coed i Bangor Is Coed: y ffurf fwyaf arferol?
Llinell 7: Llinell 7:


==Mynachlog Bangor Is-coed==
==Mynachlog Bangor Is-coed==
Roedd [[clas]] (mynachlog) '''Bangor Is-Coed''' yn ganolfan [[crefydd]] a [[dysg]] pwysig iawn yn hanes cynnar [[Cymru]] a'r [[Prydain|Brydain]] [[Celtiaid|Geltaidd]]. Yn ôl traddodiad sefydlwyd y fynachlog enwog gan y sant [[Dunawd]] yn y [[6ed ganrif]], gyda'i feibion [[Deiniol]] Wyn (nawddsant [[Bangor]] yng [[Gwynedd|Ngwynedd]]), [[Cynwyl]] a [[Gwarthan]]. Roedd y sant wedi ffoi o'r [[Hen Ogledd]] a chafodd heddwch a lloches ar lannau [[Afon Dyfrdwy]] ac felly penderfynodd sefydlu mynachlog yno.
Roedd [[clas]] (mynachlog) '''Bangor Is Coed''' yn ganolfan [[crefydd]] a [[dysg]] pwysig iawn yn hanes cynnar [[Cymru]] a'r [[Ynys Brydain|Brydain]] [[Celtiaid|Geltaidd]]. Yn ôl traddodiad sefydlwyd y fynachlog enwog gan y sant [[Dunawd]] yn y [[6ed ganrif]], gyda'i feibion [[Deiniol]] Wyn (nawddsant [[Bangor]] yng [[Gwynedd|Ngwynedd]]), [[Cynwyl]] a [[Gwarthan]]. Roedd y sant wedi ffoi o'r [[Hen Ogledd]] a chafodd heddwch a lloches ar lannau [[Afon Dyfrdwy]] ac felly penderfynodd sefydlu mynachlog yno. Daeth yn ganolfan bwysicaf [[cantref]] [[Maelor]] (a chwmwd [[Maelor Gymraeg]] yn ddiweddarach).


Yn ôl yr hanesydd o [[Saeson|Sais]] [[Beda]], cafodd Bangor Is-Coed ei dinistrio gan y Saeson yn sgîl [[Brwydr Caer]] (tua [[615]] neu [[616]]). Roedd carfan gref o'r mynachod wedi cymryd rhan yn y frwydr ei hun ond collwyd y dydd i luoedd y brenin [[Aethelfrith]] o [[Deira|Ddeira]] ([[Northumbria]] heddiw) a chollodd 1200 o'r mynachod eu bywydau.
Yn ôl yr hanesydd o [[Saeson|Sais]] [[Beda]], cafodd Bangor Is-Coed ei dinistrio gan y Saeson yn sgîl [[Brwydr Caer]] (tua [[615]] neu [[616]]). Roedd carfan gref o'r mynachod wedi cymryd rhan yn y frwydr ei hun ond collwyd y dydd i luoedd y brenin [[Aethelfrith]] o [[Deira|Ddeira]] ([[Northumbria]] heddiw) a chollodd 1200 o'r mynachod eu bywydau.


Does dim olion o'r fynachlog i'w gweld yno heddiw.
Does dim olion o'r fynachlog i'w gweld yno heddiw.

Fersiwn yn ôl 18:02, 23 Tachwedd 2007

Bangor-is-y-coed
Wrecsam

Mae Bangor-is-y-coed (hefyd Bangor Is-Coed) yn bentref ar Afon Dyfrdwy ym mwrdeistref sirol Wrecsam. Mae cae rasio ceffylau i'r de-orllewin o'r pentref.

Mynachlog Bangor Is-coed

Roedd clas (mynachlog) Bangor Is Coed yn ganolfan crefydd a dysg pwysig iawn yn hanes cynnar Cymru a'r Brydain Geltaidd. Yn ôl traddodiad sefydlwyd y fynachlog enwog gan y sant Dunawd yn y 6ed ganrif, gyda'i feibion Deiniol Wyn (nawddsant Bangor yng Ngwynedd), Cynwyl a Gwarthan. Roedd y sant wedi ffoi o'r Hen Ogledd a chafodd heddwch a lloches ar lannau Afon Dyfrdwy ac felly penderfynodd sefydlu mynachlog yno. Daeth yn ganolfan bwysicaf cantref Maelor (a chwmwd Maelor Gymraeg yn ddiweddarach).

Yn ôl yr hanesydd o Sais Beda, cafodd Bangor Is-Coed ei dinistrio gan y Saeson yn sgîl Brwydr Caer (tua 615 neu 616). Roedd carfan gref o'r mynachod wedi cymryd rhan yn y frwydr ei hun ond collwyd y dydd i luoedd y brenin Aethelfrith o Ddeira (Northumbria heddiw) a chollodd 1200 o'r mynachod eu bywydau.

Does dim olion o'r fynachlog i'w gweld yno heddiw.

Y pentref

Mae pont pump bwa sy'n dyddio o tua 1660 yn rhychwantu Afon Dyfrdwy yn y pentref; credir iddo gael ei chodi gan y pensaer enwog Inigo Jones.