Clodius Albinus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
Ar y dechrau, gwnaeth Albinus gynghrair a Septimius Severus yn erbyn Pescennius Níger. Wedi i Niger gael ei orchfygu ym Mrwydr Issos yn [[194]], bu Albinus a Severus yn ymladd yn erbyn ei gilydd am rai blynyddoedd. Gorchfygwyd byddin Albinus ger [[Lugdunum]] ar [[19 Chwefror]] [[197]], a lladdwyd ef ei hun yn y frwydr. |

{{Authority control}} |
|||
[[Categori:Genedigaethau 147]] |
[[Categori:Genedigaethau 147]] |
||
Llinell 13: | Llinell 15: | ||
[[Categori:Llywodraethwyr Rhufeinig Prydain]] |
[[Categori:Llywodraethwyr Rhufeinig Prydain]] |
||
{{ |
{{eginyn Rhufain}} |
Fersiwn yn ôl 21:03, 19 Mawrth 2017
Milwr a gwleidydd Rhufeinig oedd Decimus Clodius Ceionius Septimius Albinus, mwy adnabyddus fel Clodius Albinus (25 Tachwedd 147 – 19 Chwefror 197). Wedi marwolaeth yr ymerawdwr Pertinax, cyhoeddodd ei hun yn ymerawdwr.
Ganed ef yn Hadrumetum, yn nhalaith Affrica, i deulu uchelwrol. Ymunodd a'r fyddin, a thynnodd sylw ato ei hun wrth ymadd yn erbyn gwrthryfel Avidius Cassius yn 175; ysgrifennodd yr ymerawdwr Marcus Aurelius ddau lythyr ato yn ei ganmol.
Daeth yn llywodraethwr talaith Gallia Belgica ac yna yn llywodraethwr Prydain. Pan lofruddiwyd yr ymerawdwr Pertinax, gwerthodd Gard y Praetoriwm yr orsedd i'r sawl a gynigiai fwyaf o arian iddynt, y seneddwr cyfoethog Didius Julianus. Gwrthryfelodd tri llywodraethwr yn ei erbyn, Pescennius Níger yn Syria, Septimius Severus yn Pannonia ac Albinus ym Mhrydain. gyda chefnogaeth y milwyr yng Ngâl hefyd.
Ar y dechrau, gwnaeth Albinus gynghrair a Septimius Severus yn erbyn Pescennius Níger. Wedi i Niger gael ei orchfygu ym Mrwydr Issos yn 194, bu Albinus a Severus yn ymladd yn erbyn ei gilydd am rai blynyddoedd. Gorchfygwyd byddin Albinus ger Lugdunum ar 19 Chwefror 197, a lladdwyd ef ei hun yn y frwydr.