Penmaen-mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B llyfr |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
⚫ | |||
:''Erthygl am y mynydd o'r enw Penmaen-mawr yw hon. Am y pentref gweler [[Penmaenmawr]].'' |
:''Erthygl am y mynydd o'r enw Penmaen-mawr yw hon. Am y pentref gweler [[Penmaenmawr]].'' |
||
Mynydd [[gwenithfaen]] ym mwrdeistref sirol [[Conwy (sir)|Conwy]] yw'r '''Penmaen-mawr'''. Saif ar arfordir [[gogledd Cymru]] rhwng [[Penmaenmawr]] i'r dwyrain a [[Llanfairfechan]] i'r gorllewin. Ers gwawr hanes mae pobl wedi defnyddio carreg y mynydd. Datblygwyd [[chwarel]] fawr arno yn y [[19eg ganrif]] ac mae olion y gwaith yn creithio ei lethrau o hyd, er bod ymdrech i adfer yr amgylchedd wedi bod. Enwir pentref [[Penmaenmawr]] ar ôl y mynydd. Ei uchder presennol yw tua 1,100'. |

Ceir olion "ffatri" bwyeill carreg o [[Oes Newydd y Cerrig]] ar lethrau gorllewinol Cwm Graiglwyd, i'r dwyrain o gopa'r Penmaen-mawr. Ceir tystiolaeth fod bwyeill gwenithfaen o'r Graiglwyd yn cael eu allforio ar raddfa eang 5,000 o flynyddoedd yn ôl; mae enghreifftiau wedi'u darganfod mor bell i ffwrdd ag arfordir de Lloegr. Credir eu bod yn cael eu cludo i safle ger [[Prestatyn]] cyn eu hallforio. Ychydig i'r de-ddwyrain o'r mynydd ceir y [[Meini Hirion Penmaenmawr|Meini Hirion]] ("Druid's Circle"), sy'n un o'r [[cylch cerrig|cylchoedd cerrig]] [[cynhanes]]yddol gorau yng Nghymru. Mae nifer o olion hen gytiau i'w gweld hefyd, ynghyd â meini hirion unigol a thwmpathau claddu. |

Llinell 10: | Llinell 11: | ||
Am ganrifoedd bu'r mynydd yn rhwystr i deithwyr a arswydai rhag croesi'r llethrau syrth creigiog rhwng y ddau bentref. Heddiw mae ffordd yr [[A55]] yn mynd o dano trwy ddau dwnel mawr. |
Am ganrifoedd bu'r mynydd yn rhwystr i deithwyr a arswydai rhag croesi'r llethrau syrth creigiog rhwng y ddau bentref. Heddiw mae ffordd yr [[A55]] yn mynd o dano trwy ddau dwnel mawr. |
||
==Hen Rigwm== |
|||
:Mae genni iâr yn gori |
|||
:Ar ben y Penmaen-mawr; |
|||
:Mi es i droed yr Wyddfa |
|||
:I alw hon i lawr; |
|||
:Mi hedodd ac mi hedodd |
|||
:A'i chywion gyda hi, |
|||
:Hyd eitha tir Iwerddon, |
|||
:Good morrow, John. How dee! |
|||
==Darllen pellach== |
==Darllen pellach== |
Fersiwn yn ôl 21:17, 20 Tachwedd 2007
- Erthygl am y mynydd o'r enw Penmaen-mawr yw hon. Am y pentref gweler Penmaenmawr.
Mynydd gwenithfaen ym mwrdeistref sirol Conwy yw'r Penmaen-mawr. Saif ar arfordir gogledd Cymru rhwng Penmaenmawr i'r dwyrain a Llanfairfechan i'r gorllewin. Ers gwawr hanes mae pobl wedi defnyddio carreg y mynydd. Datblygwyd chwarel fawr arno yn y 19eg ganrif ac mae olion y gwaith yn creithio ei lethrau o hyd, er bod ymdrech i adfer yr amgylchedd wedi bod. Enwir pentref Penmaenmawr ar ôl y mynydd. Ei uchder presennol yw tua 1,100'.
Ceir olion "ffatri" bwyeill carreg o Oes Newydd y Cerrig ar lethrau gorllewinol Cwm Graiglwyd, i'r dwyrain o gopa'r Penmaen-mawr. Ceir tystiolaeth fod bwyeill gwenithfaen o'r Graiglwyd yn cael eu allforio ar raddfa eang 5,000 o flynyddoedd yn ôl; mae enghreifftiau wedi'u darganfod mor bell i ffwrdd ag arfordir de Lloegr. Credir eu bod yn cael eu cludo i safle ger Prestatyn cyn eu hallforio. Ychydig i'r de-ddwyrain o'r mynydd ceir y Meini Hirion ("Druid's Circle"), sy'n un o'r cylchoedd cerrig cynhanesyddol gorau yng Nghymru. Mae nifer o olion hen gytiau i'w gweld hefyd, ynghyd â meini hirion unigol a thwmpathau claddu.
Ar un adeg roedd copa'r Penmaen-mawr yn 1,500 troedfedd uwchben lefel y môr ond mae wedi cael ei dorri i lawr cryn dipyn gan waith chwarel dros y blynyddoedd. Coronid y gopa gan Braich-y-Dinas, a oedd un o'r bryngaerau fwyaf o gyfnod Oes yr Haearn yng Nghymru ac Ewrop, cyffelyb i Dre'r Ceiri yn ardal Trefor yn Llŷn; gwaetha'r modd dinistriwyd yr olion olaf yn y 1920au ac nid oes dim yn aros ohoni heddiw.
Datblygwyd gwaith chwarel ar y mynydd yn y 19eg ganrif. Daeth Cwmni Gwenithfaen Cymreig Penmaenmawr (Penmaenmawr Welsh Granite Co.) yn un o'r rhai mwyaf o'i fath yn y byd. Ar un adeg bu dros fil o ddynion yn gweithio yno a datblygodd pentrefi chwarel Penmaenmawr a Llanfairfechan yn gyflym wrth i weithwyr o sawl rhan o ogledd-orllewin Cymru, ond yn enwedig o Arfon a Môn, heidio yno i gael gwaith. Bu gan y chwarel berthynas glos â Chwarel Trefor, hithau'n chwarel gwenithfaen. Erbyn heddiw dim ond tuag ugain o bobl sy'n gweithio yn y chwarel.
Am ganrifoedd bu'r mynydd yn rhwystr i deithwyr a arswydai rhag croesi'r llethrau syrth creigiog rhwng y ddau bentref. Heddiw mae ffordd yr A55 yn mynd o dano trwy ddau dwnel mawr.
Hen Rigwm
- Mae genni iâr yn gori
- Ar ben y Penmaen-mawr;
- Mi es i droed yr Wyddfa
- I alw hon i lawr;
- Mi hedodd ac mi hedodd
- A'i chywion gyda hi,
- Hyd eitha tir Iwerddon,
- Good morrow, John. How dee!
Darllen pellach
- Gweneth Lilly (gol.), Lleisiau'r Graig (Cyhoeddiadau Mei, Pen-y-groes, 1992). Ysgrifau ar chwarel y Penmaen-mawr gan chwarelwyr y gorffennol, gyda rhagymadrodd gan Bedwyr Lewis Jones.