Claudius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Château de Versailles, salon de la paix, buste d'empereur romain (Claude).jpg|250px|bawd|Penddelw Claudius yn y [[Château de Versailles]]]] |
[[Delwedd:Château de Versailles, salon de la paix, buste d'empereur romain (Claude).jpg|250px|bawd|Penddelw Claudius yn y [[Château de Versailles]]]] |
||
'''Tiberius Claudius Caesar Augustus Germanicus''' ([[1 Awst]] [[10 CC]] – [[13 Hydref]] [[54]]) ('''Tiberius Claudius Drusus Nero Germanicus''' cyn dod yn ymerawdwr) oedd pedwerydd [[Ymerodron Rhufeinig|Ymerawdwr Rhufain]]. Bu'n ymeradwr o [[24 Ionawr]] [[41]] hyd ei farwolaeth. |
'''Tiberius Claudius Caesar Augustus Germanicus''' neu '''Claudius''' ([[1 Awst]] [[10 CC]] – [[13 Hydref]] [[54]]) ('''Tiberius Claudius Drusus Nero Germanicus''' cyn dod yn ymerawdwr) oedd pedwerydd [[Ymerodron Rhufeinig|Ymerawdwr Rhufain]]. Bu'n ymeradwr o [[24 Ionawr]] [[41]] hyd ei farwolaeth. |
||
Ganed ef yn [[Lugdunum]] (dinas [[Lyon]] yn [[Ffrainc]] heddiw), yn fab i [[Nero Claudius Drusus|Drusus]] ac [[Antonia Minor]]. Ef oedd yr ymerawdwr cyntaf i gael ei eni tu allan i'r [[Yr Eidal|Eidal]]. |
Ganed ef yn [[Lugdunum]] (dinas [[Lyon]] yn [[Ffrainc]] heddiw), yn fab i [[Nero Claudius Drusus|Drusus]] ac [[Antonia Minor]]. Ef oedd yr ymerawdwr cyntaf i gael ei eni tu allan i'r [[Yr Eidal|Eidal]]. |
Fersiwn yn ôl 17:28, 18 Mawrth 2017
Tiberius Claudius Caesar Augustus Germanicus neu Claudius (1 Awst 10 CC – 13 Hydref 54) (Tiberius Claudius Drusus Nero Germanicus cyn dod yn ymerawdwr) oedd pedwerydd Ymerawdwr Rhufain. Bu'n ymeradwr o 24 Ionawr 41 hyd ei farwolaeth.
Ganed ef yn Lugdunum (dinas Lyon yn Ffrainc heddiw), yn fab i Drusus ac Antonia Minor. Ef oedd yr ymerawdwr cyntaf i gael ei eni tu allan i'r Eidal.
Mae'n ymddangos fod Claudius yn dioddef o ryw fath o anabledd, ac o'r herwydd nid oedd ei deulu'n awyddus iddo gael gyrfa gyhoeddus. Pan fu farw Augustus yn 14 gofynnodd Claudius i'r ymerawdwr newydd, Tiberius am gael dechrau gyrfa gyhoeddus, ond ni chaniatawyd iddo. Cafodd fwy o amlygrwydd pan ddaeth Caligula yn ymerawdwr ar ôl marw Tiberius, ond dywedir fod Caligula yn hoffi cael hwyl am ei ben. Ar 24 Ionawr 41, llofruddiwyd Caligula. Aeth Claudius i ymguddio, ond darganfuwyd ef gan rai o'r milwyr a'i gyhoeddi'n ymerawdwr.
Ymestynnodd Claudius ffiniau'r ymerodraeth yn sylweddol, gan ychwanegu Thrace, Mauretania, Noricum, Pamphylia, Lycia a and Iudaea yn ogystal a choncro Prydain. Yn 43, gyrrodd Claudius Aulus Plautius gyda pedair lleng i Brydain i'w hychwanegu at yr ymerodraeth.
Bu farw Claudius ar 13 Hydref 54. Credir iddo gael ei wenwyno, a bod gan ei wraig Agrippina ran yn y cynllwyn. Dilynwyd ef gan Nero, mab Agrippina o briodas flaenorol.
Rhagflaenydd: Caligula |
Ymerawdwr Rhufain 25/26 Ionawr 41 OC – 13 Hydref 54 OC |
Olynydd: Nero |