Penllyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ehangu |
|||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
==Cantref Penllyn== |
==Cantref Penllyn== |
||
Yn [[Oes y Tywysogion]] [[cantref]] oedd [[Penllyn]]. Cynhelid ei lys yn [[Caer Gai|Nhgaer Gai]], ger [[Llyn Tegid]], ond yn ddiweddarach fe'i symudwyd i'r [[Y Bala|Bala]]. Roedd yn gantref ar y ffin rhwng [[teyrnas Gwynedd]] a [[Teyrnas Powys|Phowys]]. Ymddengys iddo ddechrau fel [[arglwyddiaeth]] annibynnol. Cysylltir yr arwr chwedlonol [[Gronw Pebyr]] â Phenllyn ym [[Math fab Mathonwy|Mhedwaredd Gainc]] [[Pedair Cainc y Mabinogi|y Mabinogi]]. Aeth yn rhan o deyrnas Powys yn y cyfnod cynnar. Roedd yn fan o bwys strategol yn gorwedd rhwng [[Ardudwy]] a [[Meirionnydd]] yn y gorllewin a [[Glyndyfrdwy]] yn y dwyrain a cheisiai tywysogion Gwynedd sicrhau meddiant arno er mwyn amddiffyn Gwynedd o ymosodiadau o du Powys a'r dwyrain. Fe'i cipiwyd yn derfynol gan [[Llywelyn Fawr]] ar ddechrau'r [[13eg ganrif]]. Ar ôl goresgyniad [[1284]] fe'i unwyd â Meirionnydd ac Ardudwy i greu [[Sir Feirionnydd]]. |

Ymrennid Penllyn yn ddau [[cwmwd|gwmwd]]: |
|||
*[[Is Tryweryn]] |
|||
*[[Uwch Tryweryn]] |
|||
==Rhai o enwogion Penllyn== |
==Rhai o enwogion Penllyn== |
Fersiwn yn ôl 21:09, 19 Tachwedd 2007
Penllyn yw'r ardal sydd o gwmpas Llyn Tegid a'r Bala ym Meirionnydd (de-ddwyrain Gwynedd). Mae'n cynnwys plwyfi Llandderfel, Llanfor, Llangywair, Llanycil a Llanuwchllyn. Mae Penllyn yn ardal sy'n enwog am ei chyfraniad i ddiwylliant Cymru a llenyddiaeth Gymraeg. Dyma ardal "Y Pethe", chwedl Llwyd o'r Bryn.
Cantref Penllyn
Yn Oes y Tywysogion cantref oedd Penllyn. Cynhelid ei lys yn Nhgaer Gai, ger Llyn Tegid, ond yn ddiweddarach fe'i symudwyd i'r Bala. Roedd yn gantref ar y ffin rhwng teyrnas Gwynedd a Phowys. Ymddengys iddo ddechrau fel arglwyddiaeth annibynnol. Cysylltir yr arwr chwedlonol Gronw Pebyr â Phenllyn ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi. Aeth yn rhan o deyrnas Powys yn y cyfnod cynnar. Roedd yn fan o bwys strategol yn gorwedd rhwng Ardudwy a Meirionnydd yn y gorllewin a Glyndyfrdwy yn y dwyrain a cheisiai tywysogion Gwynedd sicrhau meddiant arno er mwyn amddiffyn Gwynedd o ymosodiadau o du Powys a'r dwyrain. Fe'i cipiwyd yn derfynol gan Llywelyn Fawr ar ddechrau'r 13eg ganrif. Ar ôl goresgyniad 1284 fe'i unwyd â Meirionnydd ac Ardudwy i greu Sir Feirionnydd.
Ymrennid Penllyn yn ddau gwmwd:
Rhai o enwogion Penllyn
- Bedo Aeddren, bardd canoloesol
- R. J. Derfel, bardd a radicalydd
- Owen M. Edwards, llenor ac addysgwr
- Tom Ellis, gwleidydd Rhyddfrydol radicalaidd
- Huw Cae Llwyd, bardd canoloesol
- Ieuan ap Tudur Penllyn, bardd canoloesol
- Michael D. Jones, un o sefydlwyr y Wladfa
- Siôn Dafydd Las, bardd teulu
- Tudur Penllyn, un o feirdd mwyaf cyfnod Beirdd yr Uchelwyr
Darllen pellach
- Geraint Bowen, Penllyn (1967)
- Elwyn Edwards, Blodeugerdd Penllyn (1983)