Claudius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 18: Llinell 18:
}}
}}
{{diwedd-bocs}}
{{diwedd-bocs}}

{{eginyn Rhufain}}


{{Authority control}}
{{Authority control}}
Llinell 27: Llinell 25:
[[Categori:Ymerodron Rhufeinig]]
[[Categori:Ymerodron Rhufeinig]]
[[Categori:Pobl o Lyon]]
[[Categori:Pobl o Lyon]]

{{eginyn Rhufain}}

Fersiwn yn ôl 11:13, 18 Mawrth 2017

Penddelw Claudius yn y Château de Versailles

Tiberius Claudius Caesar Augustus Germanicus (1 Awst 10 CC13 Hydref 54) (Tiberius Claudius Drusus Nero Germanicus cyn dod yn ymerawdwr) oedd pedwerydd Ymerawdwr Rhufain. Bu'n ymeradwr o 24 Ionawr 41 hyd ei farwolaeth.

Ganed ef yn Lugdunum (dinas Lyon yn Ffrainc heddiw), yn fab i Drusus ac Antonia Minor. Ef oedd yr ymerawdwr cyntaf i gael ei eni tu allan i'r Eidal.

Mae'n ymddangos fod Claudius yn dioddef o ryw fath o anabledd, ac o'r herwydd nid oedd ei deulu'n awyddus iddo gael gyrfa gyhoeddus. Pan fu farw Augustus yn 14 gofynnodd Claudius i'r ymerawdwr newydd, Tiberius am gael dechrau gyrfa gyhoeddus, ond ni chaniatawyd iddo. Cafodd fwy o amlygrwydd pan ddaeth Caligula yn ymerawdwr ar ôl marw Tiberius, ond dywedir fod Caligula yn hoffi cael hwyl am ei ben. Ar 24 Ionawr 41, llofruddiwyd Caligula. Aeth Claudius i ymguddio, ond darganfuwyd ef gan rai o'r milwyr a'i gyhoeddi'n ymerawdwr.

Ymestynnodd Claudius ffiniau'r ymerodraeth yn sylweddol, gan ychwanegu Thrace, Mauretania, Noricum, Pamphylia, Lycia a and Iudaea yn ogystal a choncro Prydain. Yn 43, gyrrodd Claudius Aulus Plautius gyda pedair lleng i Brydain i'w hychwanegu at yr ymerodraeth.

Bu farw Claudius ar 13 Hydref 54. Credir iddo gael ei wenwyno, a bod gan ei wraig Agrippina ran yn y cynllwyn. Dilynwyd ef gan Nero, mab Agrippina o briodas flaenorol.

Rhagflaenydd:
Caligula
Ymerawdwr Rhufain
25/26 Ionawr 41 OC13 Hydref 54 OC
Olynydd:
Nero
Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato