Gweriniaeth Rhufain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
llun
Llinell 9: Llinell 9:
Datblygodd terfysgoedd mewnol yn ystod y [[Ganrif 1af CC]], gydag ymryson rhwng [[Gaius Marius]] a [[Lucius Cornelius Sulla]], yna gytundeb i rannu grym rhwng [[Iŵl Cesar]], [[Gnaeus Pompeius]] a [[Marcus Licinius Crassus]]. Wedi i Cesar goncro Gâl, bu [[rhyfel cartref]], gyda Cesar yn gorchfygu Pompeius i gipio grym. Yn [[44 CC]] llofruddiwyd Cesar gan aelodau o'r [[Senedd Rhufain|senedd]] oedd yn credu ei fod yn mynd yn rhy bwerus. Dilynwyd hyn gan ryfel cartref arall rhwng y gweriniaethwyr, dan arweiniad [[Gaius Cassius Longinus]] a [[Marcus Junius Brutus]], a chefnogwyr Cesar dan arweiniad [[Marcus Antonius]] a gor-nai Cesar, [[Augustus|Octavianus]] (a newidiodd ei enw i "Augustus" yn ddiweddarach). Plaid Cesar fu'n fuddugol, ond yna datblygodd rhyfel rhwng Marcus Antonius ac Octavianus. Wedi buddugoliaeth dros Antonius ym [[Brwydr Actium|Mrwydr Actium]], daeth

Octavianus/Augustus yn rheolwr Rhufain.
Octavianus/Augustus yn rheolwr Rhufain.

[[Image:Roman Republic-44BC.png|bawd|chwith|180px|Taleithiau Rhufeinig yn 44 CC.]]

Ni ellir rhoi dyddiad pendant ar gyfer diwedd y Weriniaeth. Llwyddodd Augustus i gipio'r grym gwirioneddol i gyd i'w ddwylo ei hun, ond gwnaeth hynny mewn dull oedd yn cadw llawer o ffurfiau'r Weriniaeth, megis y Senedd a'r ddau gonswl. Ei deitl swyddogol oedd ''[[princeps]]'', yn yr ystyr o'r "dinesydd cyntaf". Un dyddiad posibl sy'n nodi diwedd y Werimiaeth a dechrau'r Ymerodraeth yw [[16 Ionawr]] [[27 CC]], pan bleidleisiodd y senedd i roi pwerau eithriadol i Augustus.

Fersiwn yn ôl 13:15, 14 Tachwedd 2007

Marcus Tullius Cicero.

Gweriniaeth Rhufain oedd y cyfnod yn hanes Rhufain hynafol rhwng diorseddu'r brenin olaf tua 509 CC a sefydlu yr Ymerodraeth Rufeinig.

Yn y cyfnod cynnar, brenhinoedd oedd yn rheoli Rhufain. Diorseddwyd yr olaf o'r rhain, Tarquinius Superbus, tua 509 CC. Dan y drefn newydd, roedd dau gonswl yn cael eu hethol bob blwyddyn, fel na allai yr un ohonynt fynd yn rhy bwerus.

Yn raddol, concrodd y Rhufeiniaid drigolion eraill yr Eidal, megis yr Etrwsciaid. Yn ail hanner y 3edd ganrif CC, dechreuodd y cyntaf o dri rhyfel yn erbyn dinas Carthago yng ngogledd Affrica. Yn ystod yr ail o'r rhyfeloedd hyn, ymosododd Hannibal ar yr Eidal a gorchfygu'r Rhufeiniaid mewn nifer o frwydrau gyda cholledion enbyd, ond yn y diwedd gorchfygwyd yntau gan Scipio Africanus. Wedi gorchfygu Macedonia yn yr 2il ganrif CC, Rhufain oedd y grym mwyaf o gwmpas Môr y Canoldir.

Datblygodd terfysgoedd mewnol yn ystod y Ganrif 1af CC, gydag ymryson rhwng Gaius Marius a Lucius Cornelius Sulla, yna gytundeb i rannu grym rhwng Iŵl Cesar, Gnaeus Pompeius a Marcus Licinius Crassus. Wedi i Cesar goncro Gâl, bu rhyfel cartref, gyda Cesar yn gorchfygu Pompeius i gipio grym. Yn 44 CC llofruddiwyd Cesar gan aelodau o'r senedd oedd yn credu ei fod yn mynd yn rhy bwerus. Dilynwyd hyn gan ryfel cartref arall rhwng y gweriniaethwyr, dan arweiniad Gaius Cassius Longinus a Marcus Junius Brutus, a chefnogwyr Cesar dan arweiniad Marcus Antonius a gor-nai Cesar, Octavianus (a newidiodd ei enw i "Augustus" yn ddiweddarach). Plaid Cesar fu'n fuddugol, ond yna datblygodd rhyfel rhwng Marcus Antonius ac Octavianus. Wedi buddugoliaeth dros Antonius ym Mrwydr Actium, daeth Octavianus/Augustus yn rheolwr Rhufain.

Taleithiau Rhufeinig yn 44 CC.

Ni ellir rhoi dyddiad pendant ar gyfer diwedd y Weriniaeth. Llwyddodd Augustus i gipio'r grym gwirioneddol i gyd i'w ddwylo ei hun, ond gwnaeth hynny mewn dull oedd yn cadw llawer o ffurfiau'r Weriniaeth, megis y Senedd a'r ddau gonswl. Ei deitl swyddogol oedd princeps, yn yr ystyr o'r "dinesydd cyntaf". Un dyddiad posibl sy'n nodi diwedd y Werimiaeth a dechrau'r Ymerodraeth yw 16 Ionawr 27 CC, pan bleidleisiodd y senedd i roi pwerau eithriadol i Augustus.

Rhufain hynafol
Teyrnas Rhufain | Gweriniaeth Rhufain | Yr Ymerodraeth Rufeinig | Senedd Rhufain | Conswl Rhufeinig