Gweriniaeth Rhufain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) interwici |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) llun |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:M-T-Cicero.jpg|bawd|200px|[[Marcus Tullius Cicero]].]] |
|||
'''Gweriniaeth Rhufain''' oedd y cyfnod yn hanes [[Rhufain hynafol]] rhwng diorseddu'r brenin olaf tua [[509 CC]] a sefydlu [[yr Ymerodraeth Rufeinig]]. |
'''Gweriniaeth Rhufain''' oedd y cyfnod yn hanes [[Rhufain hynafol]] rhwng diorseddu'r brenin olaf tua [[509 CC]] a sefydlu [[yr Ymerodraeth Rufeinig]]. |
||
Fersiwn yn ôl 08:43, 14 Tachwedd 2007
Gweriniaeth Rhufain oedd y cyfnod yn hanes Rhufain hynafol rhwng diorseddu'r brenin olaf tua 509 CC a sefydlu yr Ymerodraeth Rufeinig.
Yn y cyfnod cynnar, brenhinoedd oedd yn rheoli Rhufain. Diorseddwyd yr olaf o'r rhain, Tarquinius Superbus, tua 509 CC. Dan y drefn newydd, roedd dau gonswl yn cael eu hethol bob blwyddyn, fel na allai yr un ohonynt fynd yn rhy bwerus.
Yn raddol, concrodd y Rhufeiniaid drigolion eraill yr Eidal, megis yr Etrwsciaid. Yn ail hanner y 3edd ganrif CC, dechreuodd y cyntaf o dri rhyfel yn erbyn dinas Carthago yng ngogledd Affrica. Yn ystod yr ail o'r rhyfeloedd hyn, ymosododd Hannibal ar yr Eidal a gorchfygu'r Rhufeiniaid mewn nifer o frwydrau gyda cholledion enbyd, ond yn y diwedd gorchfygwyd yntau gan Scipio Africanus. wedi gorchfygu Macedonia yn yr 2il ganrif CC, Rhufain oedd y grym mwyaf o gwmpas Môr y Canoldir.
Datblygodd terfysgoedd mewnol yn ystod y Ganrif 1af CC, gydag ymryson rhwng Gaius Marius a Lucius Cornelius Sulla, yna gytundeb i rannu grym rhwng Iŵl Cesar, Gnaeus Pompeius a Marcus Licinius Crassus. Wedi i Cesar goncro Gâl, bu rhyfel cartref, gyda Cesar yn gorchfygu Pompeius i gipio grym. Yn 44 CC llofruddiwyd ef gan aelodau o'r senedd oedd yn credu ei fod yn mynd yn rhy bwerus.